| ||||||||||||
HAFANAMDANOM NI |
24 April 2003
Arian Loteri'n targedu tlodi byd-eang
| ||||||
Bydd pobl ddifreintiedig ar draws y byd yn elwa o grantiau gwerth £6.8 miliwn a ddyfarnwyd dan Rhaglen grantiau rhyngwladol y Gronfa Gymunedol.
Bydd y grantiau'n helpu ariannu 15 o brosiectau gan elusennau o'r DG sy'n gweithio dramor i geisio lleddfu tlodi difrifol.
Un o'r grantiau mwyaf a gyhoeddir heddiw yw £766,446 i Project Hope UK, i helpu teuluoedd tlawd yn rhanbarth Zambezia ym Mozambique i ymdopi â'r trafferthion a ddaw yn sgìl ymlediad HIV/AIDS. Nod y prosiect fydd hyrwyddo addysg iechyd, yn cynnwys gwybodaeth ar arferion risg-uchel, a hunan-gynhaliaeth economaidd trwy helpu gwragedd bregus i geisio am arian. Dywedodd Diana Brittan, Cadeirydd y Gronfa Gymunedol: "Mae'r grantiau a ddyfarnwyd heddiw yn ategu ein hymrwymiad i dargedu difreintedd a thlodi ble bynnag mae'n digwydd. Mae'r Rhaglen grantiau rhyngwladol yn caniatáu i elusennau o'r DG sy'n gweithio dramor i barhau â'u gwaith gwerthfawr wrth geisio gwella lles cymunedau mwyaf difreintiedig y byd." Dywedodd Stuart Worsley, Cyfarwyddwr Gweithredol, Project Hope UK: "Rydym wrth ein bodd â'r grant o £766,446 gan y Gronfa Gymunedol. Diolch i'r Gronfa Gymunedol ar ran uwch dîm ac ymddiriedolwyr Project Hope UK a thrigolion Macuba a Milange ym Mozambique am y cyfraniad sylweddol hwn." Bydd cymuned anabl ymylol Bangladesh, hefyd yn elwa o grant a ddyfarnwyd heddiw. Derbyniodd Action on Disability and Development, a leolir yn Frome, Gwlad yr Haf, £400,000tuag at brosiect i ffurfio mudiad hawliau i'r anabl effeithiol ym Mangladesh. Bydd y prosiect yn ceisio sicrhau gweithrediad Deddf Lles Anabledd Bangladesh, a fydd yn caniatáu gwelliannau ym mywydau dynion, gwragedd a phlant sy'n dioddef o anabledd corfforol a thrafferthion iechyd meddwl. Dywedodd Prif Weithredwr Action on Disability and Development, Barbara Frost: "Rydym ar ben ein digon bod y Gronfa Gymunedol wedi cytuno i gefnogi ein gwaith ym Mangladesh. Bydd y grant hwn yn caniatáu i ni ehangu ein rhaglen i ardaloedd newydd o'r wlad ac yn helpu i gynnal y brwdfrydedd sy'n datblygu ymhlith mudiadau i'r anabl sy'n pwyso am newid a chynhwysiad cymdeithasol yn y wlad. Teimlwn fod y rhaglen eisoes wedi cael effaith sylweddol, ond ni fyddai'r cynnydd hwn yn bosib heb gymorth y Gronfa Gymunedol." Bydd y grantiau eraill a ddyfarnwyd heddiw o fudd i gymunedau tlawd mewn 24 o wledydd trwy; wella mynediad i ac ansawdd gofal iechyd, darparu dur a glanweithdra, gwella addysg gynradd, annog gwell rheolaeth o amgylchiadau lleol a chefnogi pobl sy'n dioddef a gamwahaniaethu. Nodiadau i olygyddion:
1. Mae rhestr llawn o'r grantiau a ddyfarnwyd heddiw ar gael ar ein gwefan yn www.cronfa -gymunedol.org.uk 2. Ers 1995 mae'r Gronfa Gymunedol wedi dyfarnu dros £2biliwn o grantiau i dros 52,000 o elusennau a grwpiau gwirfoddol yn y DG. 3. Ers 1997 mae'r Rhaglen grantiau rhyngwladol wedi dyfarnu 614 o grantiau gwerth cyfanswm o £135.6miliwn i elusennau o'r DG sy'n gweithio dramor. 4. Blaenoriaethau ariannu presennol y Rhaglen grantiau rhyngwladol yw: addysg iechyd, prosiectau hawliau dynol ac adnoddau naturiol - yn arbwennig dur. 5. Y Gronfa Gymunedol sy'n dosbarthu'r arian a godir gan y Loteri Genedlaethol i elusennau a grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Mae'r Gronfa Gymunedol yn derbyn 4.7 ceiniog o bob £1 a werir ar y Loteri Genedlaethol. Hynny yw 16.6 y cant o'r holl arian sy'n mynd i'r 'achosion da'. 6. Enw cyfreithiol y Gronfa Gymunedol yw Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol. Sefydlwyd Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn 1994 a newidiodd ei enw gweithredol i'r Gronfa Gymunedol - Arian Loteri yn gwneud gwahaniaeth yn Ebrill 2001. | Am fanylion pellach, cysylltwch â Deian Creunant, Swyddog Cyfathrebu ar 01686 611705 neu ebostiwch [email protected]
|