Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

12 September 2003

Cwestiynau cyffredinol am greu dosbarthwr loteri newydd


1)Beth sy’n digwydd?

Gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Gronfa Cyfleoedd Newydd a’r Gronfa Gymunedol i gydweithio i greu un corff dosbarthu newydd. Croesawodd y ddau gorff y cynlluniau hyn a sefydlwyd cyd bwyllgor o Aelodau Bwrdd i weithio ar y cynlluniau i greu un corff newydd.


2) Pam fod angen un dosbarthwr?

Mae’r penderfyniad i greu dosbarthwr newydd yn rhan o adolygiad yr Ysgrifennydd Gwladol o’r Loteri Genedlaethol. Mae’r adolygiad yn cynnwys pethau eraill heblaw uno’r ddau gorff.
m mis Gorffennaf cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol Dogfen Penderfyniad Cyllid y Loteri Genedlaethol yn nodi ei chynlluniau ar gyfer dosbarthiad Loteri. Mae’r ddogfen yn destun cyfnod ymgynghori o dri mis. Ynddo mae’n nodi’r achos dros gorff dosbarthu newydd, a fydd yn gwneud gwaith y Gronfa Gymunedol a’r Gronfa Cyfleoedd Newydd. Cewch hyd i fwy o wybodaeth am yr adolygiad a’r ymgynghoriad yn http://www.culture.gov.uk/global/publications/
archive_2003/nat_lott_funding.htm



3) Beth yw’r amserlen?

Gan ddibynnu ar y ddeddfwriaeth, gallai’r ddau gorff ffurfio cydgorff dros dro ag un Cadeirydd a Bwrdd a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, a gyda un Prif Weithredwr dros dro, a hynny i gychwyn ar ddyddiad a gytunir yn hanner cyntaf 2004. Mae’r manylion dan drafodaeth gan y ddau gorff ac mae’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn cymryd cyngor cyfreithiol ar yr hyn fedrir ei wneud dan y ddeddf bresennol cyn unrhyw ddeddfwriaeth newydd i greu dosbarthwr newydd.


4) Beth fydd y dosbarthwr newydd yn ei wneud?

Bydd y dosbarthwr newydd yn datblygu profiad ac arferion gorau’r ddau gorff er mwyn hwyluso’r drefn yn y meysydd hynny lle mae’r ddau gorff yn gwneud yr un gwaith, ac i sicrhau fod arian Loteri yn rhoi’r gwerth gorau am yr arian.

Ond, nod y corff newydd yw cyflawni mwy na chyfanswm y ddau gorff presennol. Yn ogystal ag arwain ar arferion da wrth ddosbarthu cyllid, mae’n debyg y byd yn arwain y cydweithio mewn nifer o feysydd Loteri ac yn datblygu dulliau newydd, a fydd yn ymwneud â’r sectorau gwirfoddol a chymunedol.

Bydd y dosbarthwr newydd yn parhau i ariannu elusennau a mudiadau cymunedol ac yn fras bydd y rhaglenni’n cynnwys iechyd, addysg a’r amgylchedd, ond bydd hefyd yn etifeddu gallu Comisiwn y Mileniwm i ariannu prosiectau adfywio mawr. Bydd yn ariannwr ar gyfer trawsnewid cymunedau, o grantiau bychain ar raddfa leol i brosiectau cyfalaf mawr, â’r nod o adfywio cymunedau.

Mae’r corff newydd yn debygol o redeg amrywiaeth o raglenni gwahanol. Bydd rhai ohonynt yn rhaglenni grant ‘agored’, lle gall mudiadau amrywiol ymgeisio trwy lenwi ffurflen. Mae’n debyg y bydd rhaglenni eraill yn canolbwyntio ar bartneriaethau strategol ar draws sectorau, ariannu adeiladwaith a datblygiad, neu gyfleoedd i’r sector gwirfoddol gyflwyno gwasanaethau cymunedol.


5) Beth yw manteisio yr uno?

Y prif fantais yw y bydd y drefn newydd yn gwneud mwy o synnwyr: bydd hi’n haws i ymgeisio ac i’r cyhoedd wybod ble mae eu harian Loteri’n cael ei wario. Bydd y dosbarthwr newydd yn datblygu ar brofiadau a chryfderau’r ddau gorff, gan arwain at drefniadau gwell a haws i ymgeiswyr ac eraill.

Gobeithiwn y bydd hyn yn cynnwys llai o raglenni a rhai cliriach, mynediad haws i’r arian ar gyfer cymunedau lleol, gwell cydlynu ag arianwyr eraill (Loteri ac eraill) a chysylltiadau synhwyrol ar draws y rhaglenni o fewn y corff newydd. Yn bwysicach fyth bydd hi’n haws i bawb ddeall sut i ymgeisio am arian Loteri er budd eu cymuned.


6) A fydd y dosbarthwr newydd yn annibynnol a’r arian yn ychwanegol i wariant y Trysorlys?

Wrth gwrs – dyna fu hanes arian Loteri erioed, a bydd yn parhau yn ychwanegol i wariant cyhoeddus. Cadarnhaodd y Gweinidogion hyn nifer o weithiau, a dweud hefyd bod angen i arian Loteri rhoi gwerth ychwanegol.


7) Beth fydd hyn yn ei olygu i ymgeiswyr, deiliaid grant, a’r sector gwirfoddol a chymunedol gyfan? 

Ni fydd y trefniadau newydd hyn yn effeithio ar ymrwymiadau presennol y Gronfa Gymunedol na’r Gronfa Cyfleoedd Newydd.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi sicrwydd fod y ganran o arian Loteri sydd ar gael i’r sector gwirfoddol a chymunedol gan y Gronfa Gymunedol ar hyn o bryd yn ddiogel ac yn annhebygol o newid.


8) Os ydym am geisio am arian Loteri, a fydd yna oedi sylweddol cyn i chi ddyfarnu grantiau newydd, wrth i chi sefydlu dosbarthwr newydd? Neu a fydd y rhaglenni grantiau presennol yn parhau?

Disgwyliwn i holl raglenni grantiau agored y Gronfa Gymunedol barhau yn ystod y cyfnod o greu dosbarthwr newydd, felly bydd hi’n dal yn bosib i geisio am grant. Os na fydd hynny’n bosib, byddwn yn siŵr o hysbysu dyddiad cau unrhyw raglen ddigon ymlaen llaw. Byddwn hefyd yn esbonio unrhyw drefniadau trawsnewidiol o ariannu gan y dosbarthwr newydd. Bydd rhaglenni presennol y Gronfa Cyfleoedd Newydd yn dilyn yr amserlenni a gyhoeddwyd eisoes.


9) Faint o arian fydd y corff newydd yn ei ddosbarthu?

Bydd yr arian i’w ddosbarthu yn dod o’r un ffynonellau o werthiant tocynnau loteri ag ar hyn o bryd. Gyda’i gilydd, bydd yn cyfateb i 50 y cant o’r arian i achosion da, amcangyfrifir y bydd tua £600-£700 miliwn y flwyddyn hyd 2009. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol eisoes wedi gwarantu arian hyd ddiwedd trwydded Camelot yn 2009.


10) Bydd gan y corff newydd swyddfeydd yng Nghymru, yr Alban Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr?

Bydd y corff newydd yn medru datblygu ar y sefyllfa bresennol yn rhanbarthau Lloegr a’r trefniadau datganoledig sydd eisoes mewn lle yng Nghymru, yr Alban Gogledd Iwerddon. Disgwyliwn ymgynghori pellach ar beth fydd hyn yn ei olygu yn nhermau rhaglenni ariannu gwahanol.



Ymholiadau'r wasg:
Deian Creunant, Rheolwr Cyfathrebu.
Tel: 01686 611705

small green arrow Download this information (Word format)