| ||||||||||||
HAFANAMDANOM NI |
3 March 2003
Y Gronfa Gymunedol yn lansio gwefan newydd
| ||||
Heddiw mae'r Gronfa Gymunedol yn estyn gwahoddiad i'w ymgeiswyr presennol a rhai newydd fwrw golwg ar ei wefan defnyddiol newydd ar www.cronfa-gymunedol.org.uk
Mae'r wefan newydd wedi'i ail gynllunio i fod yn fwy cyfeillgar ac i helpu'r defnyddwyr symud o'i gwmpas yn haws.
Dylai ymgeiswyr newydd a deiliaid grantiau sylwi fod y wefan wedi canolbwyntio ar eu hanghenion er mwyn iddynt gael atebion sydyn i'w hymholiadau. Mae'r cymorth cyn gwneud cais wedi'i wella ac yn gynnwys gwiriwr cymhwyster ar-lein. I'r rhai sydd am wybod mwy am waith y Gronfa Gymunedol, mae'r adnoddau chwilio a derbyn gwybodaeth wedi gwella hefyd felly mae'n hwylus iawn i ganfod ble a phryd y dyfarnwyd grantiau a chael rhagor o fanylion amdanynt. Datblygwyd y wefan newydd gan staff y Gronfa Gymunedol yn dilyn arolwg o dros 1,000 o ddefnyddwyr a phrofwyd y safle gan amryw o'r cwsmeriaid presennol. Dywedodd Will Miller, Cyfarwyddwr Adnoddau'r Gronfa Gymunedol: "Mae'r wefan newydd yn cynnig nifer o adnoddau rhyngweithiol gwell. Mae'r gwiriwr cymhwyster ar-lein a'r adnoddau chwilio ac adrodd yn ôl ar y gronfa ddata o grantiau, yn ddefnyddiol i bobl weld beth rydym wedi'i ariannu. " Mae staff y Gronfa Gymunedol wedi ymdrechu'n galed i sicrhau fod y wefan yn haws i'w symud o'i chwmpas a'i defnyddio. Gobeithio bydd o ddefnydd i lawer ac yn ateb nifer o'r cwestiynau sy'n rhwystro darpar ymgeiswyr. "Un o'r newidiadau pwysicaf yw'r cymorth cyn gwneud cais. Bydd hi'n haws i bobl ganfod os ydynt yn gymwys i gael grant cyn llunio'r cais. "Diolch i'r holl gwsmeriaid a roddodd sylwadau i'n cynorthwyo ni i ddatblygu'r wefan newydd a gobeithio bydd eraill yn ei hoffi." Nodiadau i olygyddion
1. Y Gronfa Gymunedol sy'n dosbarthu'r arian a godir gan y Loteri Genedlaethol i elusennau a grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Mae'r Gronfa Gymunedol yn derbyn 4.7 ceiniog o bob £1 a werir ar y Loteri Genedlaethol. 2. Enw cyfreithiol y Gronfa Gymunedol yw Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol. Sefydlwyd Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn 1994 a newidiodd ei enw gweithredol i'r Gronfa Gymunedol - Arian Loteri yn gwneud gwahaniaeth yn Ebrill 2001. 3. Ers 1995 mae'r Gronfa Gymunedol wedi dosbarthu £2.4 biliwn i dros 54,000 o brosiectau. Mae manylion llawn ar ein gwefan yn www.cronfa-gymunedol.org.uk | Ymholiadau'r wasg
Deian Creunant 01686 611705 |