Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

24 November 2003

Prif Weithredwr newydd i arwain
corff dosbarthu arian Loteri newydd




Cyhoeddodd y Gronfa Cyfleoedd Newydd a’r Gronfa Gymunedol benodiad Stephen Dunmore fel Prif Weithredwr newydd ar gyfer y dosbarthwr newydd sydd i’w greu wrth uno’r ddau fudiad. Y Dosbarthwr newydd, sydd i’w greu erbyn Gwanwyn 2004, fydd y mwyaf o’r dosbarthwyr arian Loteri i achosion da.

Stephen Dunmore fydd yn llywio’r mudiadau sy’n uno, i greu dosbarthwr newydd a fydd yn dosbarthu hanner arian achosion da y Loteri Genedlaethol i gymunedau.

Bu Stephen Dunmore yn Brif Weithredwr y Gronfa Cyfleoedd Newydd dros y pum mlynedd diwethaf. Bydd ei benodiad o’r 1 Rhagfyr 2003, yn hwyluso’r ffordd i gynllunio a datblygu gwaith y dosbarthwr newydd dros y misoedd nesaf:
“Bydd arwain yr uniad o’r ddau gorff presennol yn her rwy'n ei groesawi’n fawr. Mae angen i ni symud yn sydyn nawr i gyfuno’r ddau fudiad a pharatoi at ffurfio Bwrdd ar y cyd ym mis Ebrill. Bydd y Dosbarthwr newydd yn arwain y ffordd i weithredu agenda’r Llywodraeth o drawsnewid dosbarthiad arian Loteri i wneud yn siŵr fod manteision yr arian yn cyrraedd cymunedau, er mwyn hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol ac edrych ar ffyrdd newydd o gynnwys y sector gwirfoddol a chymunedol. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni’r amcanion hyn. Rwy'n hynod o ddiolchgar i Richard Buxton, Prif Weithredwr y Gronfa Gymunedol, am y ffordd gadarnhaol y cydweithiodd â mi i hwyluso’r uniad dros y misoedd diwethaf.”

Ar hyn o bryd mae’r Gronfa Cyfleoedd Newydd a’r Gronfa Gymunedol yn cydweithio i hwyluso’r ffordd o greu dosbarthwr newydd a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Tessa Jowell, ym mis Gorffennaf. Penodir cadeirydd newydd yn y Flwyddyn Newydd a disgwylir i’r trefniadau gweinyddol uno erbyn mis Ebrill 2004.





Ymholiadau’r wasg:

Cysylltwch â Deian Creunant ar 01686 611705/07855 276 740 am wybodaeth bellach.

Llun:
Mae’n bosib lawrlwytho llun o Stephen Dunmore o:
http://www.nof.org.uk/Images/ContentHeader/24112003115024.jpg

small green arrow [email protected]