| ||||||||||||
HAFANAMDANOM NI |
3 July 2003
Croeso gan yr achosion da sy'n uno i gynllun y llywodraeth ar gyfer corff loteri newydd
| ||||
Rhoddwyd croeso ar y cyd gan y Gronfa Gymunedol a'r Gronfa Cyfleoedd Newydd i gyhoeddiad Papur Gwyn heddiw y bydd dosbarthwr cymunedol newydd o arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei greu drwy gyfuno'r ddwy Gronfa..
Rhoddodd y ddwy Gronfa, sydd ill dwy yn canolbwyntio ar anfantais a gwella safon byw cymunedau, gefnogaeth frwd i fwriad yr Ysgrifennydd Gwladol Tessa Jowell y bydd gan y dosbarthwr newydd y swyddogaeth arweiniol wrth hybu gweithio ar y cyd ac arfer da ar draws yr holl ddosbarthwyr, ac i'r gwarantau a roddodd ar gyfer y llwybrau ariannu ar gyfer y sector gwirfoddol a chymunedol.
Dywedodd Diana Brittan, Cadeirydd y Gronfa Gymunedol a Jill Pitkeathley, Cadeirydd y Gronfa Cyfleoedd Newydd: "Byddwn yn adeiladu ar gryfderau y ddau fudiad, ond rhaid i'r dosbarthwr newydd fod yn fwy na'r cydrannau oll i gyd. Bydd yn canolbwyntio ar y budd y gall y Loteri roi i gymunedau, gan ei gwneud yn haws cael at arian a rhoi'r cwsmer yn gyntaf". "Byddwn hefyd yn archwilio amrediad o fecanweithiau ariannu - rhaglenni agored, sy'n adlewyrchu'r ffordd y mae'r Gronfa gymunedol yn ariannu'r sector gwirfoddol a chymunedol, rhaglenni strategol a thrawsnewidiol, yn cael eu trosglwyddo trwy bartneriaid dyfarnu a dyraniadau arian. Lle bo hynny'n bosibl, byddwn yn annog cymunedau i benderfynu eu blaenoriaethau eu hunain, ac yn dirprwyo penderfyniadau i lefel lleol." "Rydym yn croesawu'r cynnig i godi'r uchafswm ar y rhaglen 'Arian i Bawb' a'r cynllun peilot ar gyfer grantiau micro o dan £500, a fydd yn gwella rhwyddineb a'r cyflymder y bydd cymunedau yn cael arian ar gyfer prosiectau gwerth chweil." "Bydd gweithio mewn partneriaeth ar draws y sectorau ac ategu blaenoriaethau'r Llywodraeth yn themâu allweddol - sy'n bwysicach byth os caiff y dosbarthwr newydd y pwerau i ddosbarthau arian nad yw'n dod o'r Loteri. Bydd cyfleoedd i ariannu'r sector gwirfoddol a'i strwythur mewn ffyrdd newydd a chynhyrfus y gwyddom fydd yn cael eu croesawu." "Rydym hefyd wrth ein bodd y bydd cyfnod ymgynghori o 12 wythnos pan gaiff y gwahanol sectorau a'r cyhoedd yn gyffredinol fynegi eu barn. Byddwn yn cefnogi ac yn hwyluso'r ymgynghori hwnnw." "Mae'r ddwy Gronfa yn edrych tua'r dyfodol gyda meddwl agored. Mae'n bwysig ein bod nawr yn symud ymlaen yn gyflym tuag at sefydlu'r dosbarthwr newydd." Nodiadau i Olygyddion
Y Gronfa Cyfleoedd Newydd: § Y Gronfa Cyfleodd Newydd yw dosbarthwr achosion da mwyaf y Loteri Genedlaethol, gan ddarparu arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau iechyd, addysg a'r amgylchedd led led y DU, gan ganolbwyntio yn arbennig ar wella safon bywyd, yn arbennig mewn cymunedau difrientiedig. § Ers cael ei lansio yn 1998, mae'r Gronfa Cyfleoedd Newydd wedi ymrwymo £2.1 biliwn i fentrau gyda phartneriaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol o'r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat. Mae ei gwaith wedi canolbwyntio ar anghenion y bobl sydd fwyaf difrientiedig yn y gymdeithas gan weithredu rhaglenni sy'n cefnogi iechyd, addysg a'r amgylchedd sy'n ategu blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Y Gronfa Gymunedol: · Mae'r Gronfa Gymunedol yn rhoi arian o'r Loteri Genedlaethol allan i elusennau a grwpiau gwirfoddol a chymunedol. O bob £1 a werir ar y Loteri Genedlaethol mae'r Gronfa Gymunedol yn cael 4.7 ceiniog. · Ers 1995 mae'r Gronfa Gymunedol wedi dyfarnu gwerth mwy na £2.5 biliwn o grantiau i fwy na 55,000 o elusennau a grwpiau gwirfoddol yn y DU. · Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol sy'n parhau i fod yn enw cyfreithiol y Gronfa Gymunedol. Sefydlwyd Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol yn 1994 a newidiodd ei enw gweithredol i y Gronfa Gymunedol - Arian loteri yn gwneud gwahaniaeth yn Ebrill 2001. | I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau cysylltwch â
Deian Creunant, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, Y Gronfa Gymunedol: 07973 529135 gwefan: www.cronfa-gymunedol.org.uk neu Natalie Kober, Prif Swyddog Cysylltiadau yng Nghymru, Y Gronfa Cyfleoedd Newydd : 07760 171431 gwefan: www.nof.org.uk |