Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

13 November 2003

Wrecsam yn dathlu wrth dderbyn arian loteri


Mae grwpiau yn Wrecsam a’r cylch yn dathlu’r wythnos hon yn dilyn cyhoeddiad diweddaraf y grantiau gan y Gronfa Gymunedol, y dosbarthwr loteri sy’n ariannu elusennau a grwpiau gwirfoddol.


Bydd pum grŵp yn rhannu cyfanswm o £550,074 i helpu amrywiaeth o bobl a phrosiectau. Clybiau Gwaith Cartref Wrecsam sy’n derbyn y grant mwyaf. Mae’r mudiad yn derbyn £223,893 i ariannu deg clwb gwaith cartref i blant a ieuenctid 8-18 oed, a fydd wedi eu lleoli yn y cymunedau. Amcan y clybiau fydd dysgu sgiliau i helpu’r defnyddwyr fedru ddatblygu’n ddysgwyr annibynnol.

Dywedodd y Cydlynydd, Tom Taylor, “Rydym wedi gwirioni â’r grant sylweddol hwn gan y Gronfa Gymunedol. Byddwn yn medru helpu ieuenctid a rhieni yn Wrecsam sydd efallai brin o amser a lle i ganolbwyntio’n llwyr ar waith cartref a sgiliau sylfaenol. Yn ddiweddar, noddodd yr Uned Sgiliau Sylfaenol fod pob ward yn Wrecsam yn dangos graddfeydd is na’r cyfartaledd mewn rhifedd a llythrennedd, felly ein nod fydd gwella hyn trwy’r clybiau gwaith cartref. Byddwn hefyd yn cynorthwyo llawer o rieni â’u plant yn mynychu ysgolion Cymraeg sy’n methu helpu’r plant am nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg.”
Y mudiadau eraill i elwa yw…./parhad

Y mudiadau eraill i elwa yw: Relate Gogledd Cymru sy’n derbyn £32,446 i ariannu chwe chynghorwr ieuenctid mewn ysgolion a cholegau a fydd yn helpu’r ieuenctid i ddatblygu safbwynt iach i’w perthnasau nhw yn y dyfodol. Mae Advance Brighter Futures, y mudiad sy’n cael ei rhedeg gan y defnyddwyr ac sy’n helpu dioddefwyr iechyd meddwl, yn derbyn £124,051 i gynorthwyo unigolion i reoli eu salwch a chynyddu ymwybyddiaeth yn y gymuned er mwyn goresgyn stigma negyddol. Bydd Groundwork Wrexham yn derbyn £169,684 ar gyfer prosiect arloesol â’r nod o wella sgiliau unigolion a chynyddu eu potensial i dderbyn gwaith tra’n gwella’r amgylchedd yr un pryd. A bydd The Venture, sydd wedi ei leoli ar stâd Parc Caia yn derbyn grant o £25,000 i brynu bws mini ar gyfer cludo ieuenctid a’u teuluoedd i weithgareddau cymdeithasol ac addysgol a fydd yn eu helpu i ddysgu sgiliau a derbyn profiadau newydd.

Dywedodd Dr John Marek, Aelod Cynulliad lleol, “ Dyma newyddion gwych i Wrecsam, rwyf wrth fy modd fod y Gronfa Gymunedol wedi cydnabod yr angen yma a’r gwaith ardderchog a wneir gan y grwpiau hyn yn eu cymunedau. Bydd yr holl fudiadau hyn yn defnyddio’r arian yn ddoeth er budd Wrecsam.”

Ategodd Jeff Carroll, Cadeirydd y Gronfa Gymunedol yng Nghymru, “Clustnodwyd Wrecsam fel un o’r pum ardal yng Nghymru nad oedd yn derbyn digon o arian loteri dan y cynllun cyfran deg a lansiwyd yn Ebrill 2002. Nod y cynllun oedd targedu arian ac adnoddau i’r ardaloedd hynny a’r nod oedd cynyddu ymwybyddiaeth a fyddai’n arwain at geisiadau o ansawdd uchel a rwyf wrth fy modd fod Wrecsam erbyn hyn yn cynaeafu ffrwyth y cynllun.”


Nodiadau i Olygyddion

1. Y Gronfa Gymunedol yw enw gweithredol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol, corff annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd er mwyn dosbarthu arian i gefnogi mudiadau elusennol, llesiannol a dyngarol. Mae’r Gronfa Gymunedol yn derbyn 4.7c o bob £1 a werir ar y loteri.
2. Enw gweithredol y Gronfa Gymunedol yw Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol.
3. Ers mis Hydref 1995, mae’r Gronfa Gymunedol, trwy’r rhaglenni grantiau, wedi dosbarthu £145 miliwn i grwpiau ledled Cymru. Mae gwybodaeth lawn ar ein gwefan yn www.cronfa-gymunedol.org.uk


Cysylltwch â Deian Creunant ar 01686 611705/07855 276 740 am wybodaeth bellach.