Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

14 February 2003

Elusennau iechyd yn ennill y grantiau diweddaraf


Bydd TRI GRWP AR DDEG yng Nghymru yn rhannu cyfanswm o £1,229,167 yn sgil dyfarnu Grantiau i brosiectau mawr a Grantiau i brosiectau canolig diweddaraf y Gronfa Gymunedol yng Nghymru.

Mae Meningitis Cymru a Hosbis Tw Nightingale yn Wrecsam ymhlith y grwpiau a fydd yn dathlu yng Ngogledd Cymru.

Bydd Meningitis Cymru yn derbyn £59,903 dros ddwy flynedd er mwyn cyflogi cyd-lynydd llawn amser yng Ngogledd Cymru. Bydd y cyd-lynydd yn gweithio o Gaernarfon ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau llid yr ymennydd mewn ymgyrch wedi ei dargedu er mwyn annog diagnosis cynnar.

Yn 2002 cafwyd 213 achos o lid yr ymennydd ledled Cymru.

Mae Elizabeth Gibbs-Murray, Cyd-gysylltydd Cenedlaethol Meningitis Cymru, a gollodd fab o lid yr ymennydd 12 mlynedd yn ôl, yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd diagnosis cynnar: "Gall unrhyw un ddal llid yr ymennydd, er mai plant iau na phump oed, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc a phobl dros 50 oed sydd fwyaf mewn peryg.

"Er bod ymwybyddiaeth wedi gwella'n aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf, mae yna lawer o waith i'w wneud o hyd ac mae angen i ni drosglwyddo ein neges i bobl yng Ngogledd Cymru. Yn aml iawn mae pobl yn meddwl 'wnaiff o fyth ddigwydd i mi' neu 'wna'i ddim trafferthu'r meddyg' ac mae pobl hefyd yn anghofio, felly rhaid i ni eu hatgoffa'n gyson. Mae gwella ymwybyddiaeth yn arbed bywydau."





Bydd yr ymgyrch hyrwyddo yng Ngogledd Cymru yn cynnwys ymweliadau ag ysgolion, grwpiau cyswllt, sgyrsiau gyda phobl broffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a theithiau gwybodaeth. Mae yna linell gymorth 24 awr ar gyfer unrhyw un sy'n poeni am symptomau: 0800 6529996.

Dyfarnwyd £29,083 i Hosbis Tw Nightingale i dalu am fws mini wedi ei addasu'n arbennig yn lle'r hen un. Bydd y bws mini yn cael ei ddefnyddio bob dydd o'r wythnos er mwyn cludo cleifion i, ac o, uned gofal dydd yr hosbis a gall hefyd ddod â chleifion i'r hosbis i gael therapi. Mae Tw Nightingale House, sy'n gofalu am bobl gydag afiechydon difrifol a'u teuluoedd, yn dibynnu ar ganfod mwy na £1.2 miliwn o gyfraniadau gwirfoddol eleni ac mae'r staff yn hynod o falch o dderbyn y grant.

Meddai Duncan Miller, Rheolwr Cyffredinol: "Mae'n hanfodol i ni gael cerbyd y medrwn ddibynnu arno gan fod nifer o'n cleifion yn dod o wahanol ardaloedd ar hyd a lled y rhanbarth ac mae teithio'n anghyfforddus iawn i rai. Bydd y bws mini newydd yn gyfforddus a bydd mynediad hawdd iddo. Fe fydd yn ein helpu i barhau i roi'r gwasanaeth o'r radd flaenaf i'n cleifion. Dylai hefyd arbed arian ar filiau trwsio cerbyd!"

Grup arall a fydd yn dathlu yw Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru a fydd yn derbyn £108,583 dros dair blynedd er mwyn cyflogi Swyddog Addysg i geisio lleihau unigrwydd pobl ifanc sy'n derbyn addysg y prif ffrwd a gwella eu hyder fel y medrant fynd ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant a byd gwaith.

Ar gyfer Cymru gyfan, bydd Mudiad Ysgolion Meithrin yn derbyn £59,270 i dalu am becyn CD-Rom rhyngweithiol dwyieithog i blant dan 5 oed er mwyn hyrwyddo diogelwch ac atal damweiniau a bydd Cymdeithas Clybiau Ieuenctid Cymru yn derbyn £162,169 i ehangu a datblygu'r 'Gwobrau Llwyddiant Ieuenctid' ledled Cymru.

Mae'r Gronfa Gymunedol yng Nghymru wedi dosbarthu cyfanswm o dros £138 miliwn i grwpiau gwirfoddol er mwyn mynd i'r afael â thlodi a hyrwyddo gweithredu cymunedol.

Dylai grwpiau sydd am gael ffurflenni cais neu ragor o wybodaeth ymweld â'r wefan: www.cronfa-gymunedol.org.uk neu ffonio 0845 727 3273 (Cymraeg) neu 0845 791 9191 (Saesneg).

Nodiadau i Olygyddion

1. Ar gyfer ymholiadau'r wasg neu rifau cyswllt y grwpiau cysylltwch â Debbie: 01352 700208 neu 07968 113772.

2. OS BYDDAI'N WELL GENNYCH DDERBYN Y WYBODAETH HON YN ELECTRONIG YN Y DYFODOL, CYSYLLTWCH Â NI DRWY FFONIO'R RHIF UCHOD.

3. Y Gronfa Gymunedol yw enw gweithredol Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, corff annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd er mwyn dosbarthu arian i gefnogi mudiadau elusennol, llesiannol a dyngarol. Mae 17 aelod ar y Bwrdd, yn cynnwys y Cadeirydd. Mae'r aelodau yn dyfarnu grantiau ar bwyllgorau grantiau penodol i Gymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r DG yn gyffredinol.

4. Dyfernir grantiau'r Gronfa Gymunedol gan Bwyllgor Cymru. Yr aelodau yng Nghymru yw Jeff Carrol (Cadeirydd) ac Elisabeth Watkins. Aelodau Cyf-etholedig y Pwyllgor yw Margaret Dennis, Jenny Lewis a Dr Glyn Williams.

5. Prif nod y Bwrdd yw dyfarnu grantiau i gwrdd ag anghenion y rhai mewn cymdeithas sydd fwyaf dan anfantais a gwella ansawdd bywyd yn y gymuned.

6. Ers mis Hydref 1995, mae'r Gronfa Gymunedol, trwy'r rhaglenni grantiau, wedi dosbarthu dros £138 miliwn i grwpiau ledled Cymru.

7. Cyhoeddir rhestrau llawn o grantiau'r Gronfa Gymunedol ar y wê: www.cronfa-gymunedol.org a rhestrir holl grantiau dosbarthwyr y Loteri ar y safle www.lottery.culture.gov.uk.


Media enquiries
For media enquiries or group contact numbers please call Debbie on 01352 700208 or 07968 113772.