Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

14 February 2003

Gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth


Bydd TRI GRWP AR DDEG yng Nghymru yn rhannu cyfanswm o £1,229,167 yn sgil dyfarnu Grantiau i brosiectau mawr a Grantiau i brosiectau canolig diweddaraf y Gronfa Gymunedol yng Nghymru.

Dyfarnwyd £48,854 i Ganolfan Deuluol Garnant yn Sir Gaerfyrddin dros ddwy flynedd er mwyn cyflogi cyd-gysylltydd rhan amser i ddarparu canolfan agored ar gyfer plant iau nag oed ysgol a'u rhieni ar stad Maes y Bedol yn Ngharnant.

Bydd y Ganolfan yn agor yn llawn cyn gynted ag y penodir cyd-gysylltydd ac fe fydd yn cynnig gemau, gweithgareddau a rhwydwaith o gefnogaeth i rieni, gofalwyr a'u plant fel y byddant ei angen, rhwng 9.30am a 2.30pm ddydd Llun hyd ddydd Gwener.

Eglurodd Catherine James, Gweithwraig Prosiect Plant Dewi: "Rydym wedi bod yn gwrando ar anghenion rhieni a'u plant a nod y Ganolfan yw cynnig awyrgylch hwyliog, diogel ac ysgogol lle gall oedolion ddod ynghyd a lle gall plant chwarae, gwneud ffrindiau newydd a dysgu."

Yn y Ganolfan, bydd modd i blant baentio, gwneud lluniau, defnyddio cyffyrdd-sgrîn gyfrifiadurol, chwarae mewn pyllau tywod a phyllau peli a mwynhau chwarae gemau, canu a dawnsio dan do ac yn yr awyr agored.

Mae oedolion yn aros gyda'u plant ac yn manteisio ar yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael iddynt yn cynnwys aromatherapi, tyliniad babanod a chyfrifiaduron.

Bydd y Ganolfan hefyd yn fan delfrydol i bobl ddod i adnabod ei gilydd a chefnogi ei gilydd a bydd yn ganolfan y gall mudiadau eraill ei defnyddio er mwyn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol i'r gymuned.

"Ni fyddai'r syniad o sefydlu'r Ganolfan hon wedi datblygu onibai am ymdrechion llawer o bobl yn yr ardal leol ac mae'r grant hwn yn golygu y medrwn yn awr ei gwneud yn realiti i'r gymuned. Mae pawb ohonom wedi ein cyffroi yn fawr," ychwanegodd Catherine.

Bydd gwirfoddolwyr newydd Rhaglen Gwirfoddolwyr Ymddeoledig a Gwirfoddolwyr Hwn (RSVP) yn dilyn ôl troed oddeutu 400 o wirfoddolwyr hwn mewn amrywiol rannau o Gymru sydd eisoes yn darllen gyda phlant ac yn eu helpu gyda mathemateg.

Bydd modd i wirfoddolwyr newydd Gwasanaethau Cymunedol (CSV) recriwtio mwy o bobl dros 50 i helpu plant mewn ysgolion ledled Cymru, yn rhan o ehangiad prosiect rhifedd a llythrennedd, yn sgil grant o £167,670.

Mae Martyn Pengilley, Rheolwr Datblygu RSVP yng Nghymru yn hynod falch fod modd i'r prosiect, sydd wedi cael ei weithredu'n llwyddiannus yng Nghaerdydd ers deng mlynedd, dyfu: "Mae'r prosiect hwn yn un llwyddiannus iawn. Mae'n golygu y gall person hwn ddod â'u profiad, ac efallai'n bwysicaf oll, eu hamser, i'r ystafell ddosbarth er mwyn cefnogi plant i ddysgu sgiliau sylfaenol.

"Mae prawf fod sgiliau plant yn gwella'n sylweddol pan gânt fwy o sylw unigol ac mae athrawon wedi gwerthfawrogi cael oedolyn arall yn y dosbarth i gefnogi eu gwaith.

"Diolch i'r grant hwn, medrwn yn awr fynd â'r prosiect i ardaloedd newydd ac fe fyddwn i ddechrau ehangu'r prosiect mewn rhannau eraill o Dde Cymru a Gogledd Ddwyrain Cymru."

Bydd yr arian, dros dair blynedd, yn talu'n rhannol am gyflogi mwy o staff - un Cyd-Gysylltydd Prosiect Ysgolion llawn amser ac un rhan amser.

Bu grwpiau mewn mannau eraill yn llwyddiannus hefyd. Bydd Cyngor ar Bopeth Bwrdeistref Sirol Caerffili ym Margoed yn dathlu ar ôl derbyn £147,384 i gynyddu ei nifer o wirfoddolwyr a'r gwasanaethau a gynigir.

Bydd Cymorth i Ferched Casnewydd Cyf yn derbyn £100,455 er mwyn darparu cefnogaeth a gweithgareddau i blant sydd wedi dioddef neu sydd wedi bod yn dyst i drais yn y cartref ac yn Rhondda Cynon Taf, bydd 'Mind' Merthyr a'r Cymoedd yn derbyn £162,588 er mwyn datblygu canolfan alw heibio ym Mhontypridd a fydd yn cynnwys grwpiau hunan-gymorth, cyfleoedd gwirfoddoli a rhaglen hyfforddi.

Bydd modd i Gymdeithas Les Bangladesh ddarparu canolfan alw heibio a chyngor a chefnogaeth i aelodau'r gymuned Fangladeshi ym Mae Abertawe yn ogystal ag annog pobl i gymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol cymunedol, yn sgil grant o £50,728 a bydd Cyngor ar Bopeth, hefyd yn Abertawe, yn derbyn £77,573 i roi cyngor estyn allan er mwyn helpu pobl i gael mynediad i fudd-daliadau lles.

Ar gyfer Cymru gyfan, bydd Mudiad Ysgolion Meithrin yn derbyn £59,270 i dalu am becyn CD-Rom rhyngweithiol dwyieithog i blant dan 5 oed er mwyn hyrwyddo diogelwch ac atal damweiniau a bydd Cymdeithas Clybiau Ieuenctid Cymru yn derbyn £162,169 i ehangu a datblygu'r 'Gwobrau Llwyddiant Ieuenctid' ledled Cymru.

Mae'r Gronfa Gymunedol yng Nghymru wedi dosbarthu cyfanswm o dros £138 miliwn i grwpiau gwirfoddol er mwyn mynd i'r afael â thlodi a hyrwyddo gweithredu cymunedol.

Dylai grwpiau sydd am gael ffurflenni cais neu ragor o wybodaeth ymweld â'r wefan: www.cronfa-gymunedol.org.uk neu ffonio 0845 727 3273 (Cymraeg) neu 0845 791 9191 (Saesneg).

Nodiadau i Olygyddion

1. Ar gyfer ymholiadau'r wasg neu rifau cyswllt y grwpiau cysylltwch â Debbie: 01352 700208 neu 07968 113772.

2. OS BYDDAI'N WELL GENNYCH DDERBYN Y WYBODAETH HON YN ELECTRONIG YN Y DYFODOL, CYSYLLTWCH Â NI DRWY FFONIO'R RHIF UCHOD.

3. Y Gronfa Gymunedol yw enw gweithredol Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, corff annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd er mwyn dosbarthu arian i gefnogi mudiadau elusennol, llesiannol a dyngarol. Mae 17 aelod ar y Bwrdd, yn cynnwys y Cadeirydd. Mae'r aelodau yn dyfarnu grantiau ar bwyllgorau grantiau penodol i Gymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r DG yn gyffredinol.

4. Dyfernir grantiau'r Gronfa Gymunedol gan Bwyllgor Cymru. Yr aelodau yng Nghymru yw Jeff Carrol (Cadeirydd) ac Elisabeth Watkins. Aelodau Cyf-etholedig y Pwyllgor yw Margaret Dennis, Jenny Lewis a Dr Glyn Williams.

5. Prif nod y Bwrdd yw dyfarnu grantiau i gwrdd ag anghenion y rhai mewn cymdeithas sydd fwyaf dan anfantais a gwella ansawdd bywyd yn y gymuned.

6. Ers mis Hydref 1995, mae'r Gronfa Gymunedol, trwy'r rhaglenni grantiau, wedi dosbarthu dros £138 miliwn i grwpiau ledled Cymru.

7. Cyhoeddir rhestrau llawn o grantiau'r Gronfa Gymunedol ar y wê: www.cronfa-gymunedol.org.uk a rhestrir holl grantiau dosbarthwyr y Loteri ar y safle www.lottery.culture.gov.uk.





Media enquiries
For media enquiries or group contact numbers please call Debbie on 01352 700208 or 07968 113772.