Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

18 February 2004

MERCH O’R CYMOEDD YN BENNAETH AR FILIYNAU O ARIAN LOTERI YNG NGHYMRU


Penodwyd Ceri Doyle, merch a anwyd ym Maesteg yn Gyfarwyddwr y Dosbarthwr Loteri newydd yng Nghymru.

Bydd y Dosbarthwr Newydd drwy’r DU yn cael ei ffurfio drwy uno y Gronfa Gymunedol a’r Gronfa Cyfleoedd Newydd a bydd yn gyfrifol am ddosbarthu miliynau o bunnoedd o arian loteri yng Nghymru.

Treuliodd Ms Doyle, 35, y 18 mis diwethaf yn sefydlu swyddfa Cymru gyda’r Gronfa Cyfleoedd Newydd a bu’n llwyddiannus wrth sicrhau fod arian Loteri yn cyrraedd y rhai mwyaf anghenus yng Nghymru.

Gwnaeth argraff sylweddol yn y sectorau iechyd, addysg ac amgylchedd trwy gydweithio ag amryw o arbenigwyr a phobl broffesiynol i lywio arian Loteri bwrpasol ar draws y wlad.

Wedi graddio ym maes gwyddoniaeth, gweithiodd Ms Doyle mewn amryw o swyddi Awdurdod Lleol yn yr Alban, gan arwain a chyfrannu at nifer o fudiadau di-elw, gan hybu adfywiad cymdeithasol ac economaidd a datblygodd brofiad sylweddol wrth sicrhau arian Loteri ac Ewropeaidd.

Mae Ms Doyle yn fam i efeilliaid tair oed ac wedi cartrefi gyda nhw a’i phartner Gareth ym Mro Morgannwg.

Mae Ms Doyle yn gweld yr her o ddatblygu ariannwr, sy’n fwy na chyfanswm ei rannau, yn gyfle cyffrous.

“Bydd y Loteri Genedlaethol yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd eleni, ac mae creu’r Dosbarthwr Newydd hwn yn rhoi cyfle i ni ddatblygu’r profiad a dysgu gwersi o’r gorffennol.

“Fel Cyfarwyddwr Cymru, rwy'n bwriadu hwyluso’r ffordd i’w gwneud hi’n haws i’r cyhoedd sicrhau arian loteri.”

“Yr her fydd sicrhau fod y rhaglenni grantiau newydd yn gweithio mewn ffordd ymarferol a syml â’r nod hir dymor yw gwneud gwahaniaeth wirioneddol o fewn cymunedau Cymru.”

Cyhoeddwyd y penodiad heddiw gan Stephen Dunmore, Prif Weithredwr DU y Dosbarthwr Newydd,

“Rwyf wrth fy modd bod Ceri Doyle wedi cael ei phenodi. Cydnabyddir y profiad a’r arbenigrwydd y mae Ceri Doyle yn ei gyfrannu i’r Dosbarthwr Newydd, ar draws y Gronfa Gymunedol a’r Gronfa Cyfleoedd Newydd. Bydd y cyhoeddiad hwn yn hwyluso’r ffordd i uno’r ddau gorff a pharatoi at sefydlu Bwrdd newydd yn ddiweddarach yn y Gwanwyn.”

Bydd y dosbarthwr Loteri newydd, y cyhoeddir ei enw ym mis Ebrill, yn ariannu prosiectau yn y sectorau gwirfoddol a statudol, ac yn dilyn deddfwriaeth newydd bydd yn medru dosbarthu arian nad yw’n arian loteri hefyd.

Croesawodd Alun Pugh AM, Gweinidog Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon Llywodraeth Cynulliad Cymru, y penodiad a phwysleisiodd bod cyfnod cyffrous yn wynebu’r Loteri Genedlaethol,

"Croesawaf y penodiad pwysig hwn. Bydd gan y dosbarthwr loteri cymunedol newydd swyddogaeth allweddol yng Nghymru yn dosbarthu arian i ardaloedd o Gymru sydd ei angen fwyaf.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod â pherthynas waith dda â’r Gronfa Cyfleoedd Newydd yn ogystal â’r Gronfa Gymunedol, a gobeithio y bydd yn parhau gyda’r Dosbarthwr newydd. Edrychaf ymlaen i weithio gyda Ceri Doyle yn y dyfodol."

Bydd Ceri Doyle yn dechrau ar ei swydd newydd ar unwaith ac yn rheoli’r dosbarthwr Newydd o swyddfeydd yng Nghaerdydd a’r Drenewydd



Am wybodaeth bellach cysylltwch â, Deian Creunant: swyddfa: 01686 611 705 symudol: 07855 276 740