| ||||||||||||
HAFANAMDANOM NI |
20 February 2004
Hwb enfawr i ganolfan newydd yn y Barri
| ||||
Derbyniodd y cynllun i adeiladu Canolfan Gymunedol AmlBwrpas yn y Barri hwb enfawr heddiw gyda’r newydd ei fod wedi sicrhau £300,000 gan y Gronfa Gymunedol, un o’r dosbarthwyr loteri sydd yn gweithio yng Nghymru. Bydd y Ganolfan ei hun, ar gost o dros 2 filiwn o bunnoedd, yn darparu amrywiaeth o adnoddau a gweithgareddau ar gyfer pobl o bob oed.
Mae’r adeilad YMCA presennol yn cael defnydd llawn gyda dros 1500 o bobl yn ei ddefnyddio bob wythnos a llawer mwy ar y rhestr aros. Bydd y Ganolfan newydd yn caniatau datblygu gweithgareddau newydd ym meysydd chwaraeon, celfyddydau a dysgu gydol oes.
Eglurodd Anthea Clements, Cyfarwyddwr y Ganolfan, bwysigrwydd yr arian, “Mae cyfanswm cost y Ganolfan dros 2 filiwn o bunnoedd ond mae llawer ohono yn ddibynnol ar dderbyn yr arian hwn gan y Gronfa Gymunedol. Rydym nawr yn y broses o sicrhau arian Amcan Dau yn ogystal ag arian gan y Gronfa Adfywio Lleol ond dylai’r newyddion gwych hyn heddiw wneud y broses yn haws. Rwyn falch dros ben!” Mae hefyd yn cael ei weld fel rhan bwysig o’r adfywiad o ardal y Barri, a dywedodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a chadeirydd Partneriaeth Ewropeaidd y Fro Cynghorydd Jeffrey James: “Rwy’n hapus iawn fod cam arall wedi ei gymryd i sicrhau bodolaeth y datblygiad hollbwysig hwn. Mae’r Cyngor wedi ymroi yn llawn i’r prosiect allweddol hwn sy’n cael ei arwain gan y sector wirfoddol ac a fydd yn cwrdd ag anghenion pobl lleol o bob oed. Mae’r Ganolfan yn tanlinellu y gwaith Partneriaeth pwysig rhwng YMCA y Barri, y gymuned a’r Cyngor, a fydd yn ariannu adnodd cymunedol pwrpasol ar gyfer oedolion yn y Ganolfan, gan eu galluogi i weithredu yng nghalon y gymuned.” Ychwanegodd James Cawley, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol y Fro, “Tra’n sylweddoli fod angen swm enfawr o arian i ddatblygu’r Ganolfan, mae’r Awdurdod Lleol yn medru gweld fod y wobr i’r gymuned leol yn dipyn mwy na’r costau craidd ynghlwm a’r datblygiad. Rydym yn gweld hwn fel y cam cyntaf cyffrous yn y broses o adfywio canol tref y Barri.” Adleisiodd Jeff Carroll, Cadeirydd y Gronfa Gymunedol yng Nghymru, y teimladau hyn, “Dyn ni ddim yn aml yn dyfarnu grantiau o’r maint yma ond sylweddolodd y Pwyllgor fod hwn yn brosiect allai wneud lles enfawr i’r ardal leol. Rydym hefyd yn annog grwpiau i geisio edrych ar weithio mewn partneriaeth ac mae hwn yn esiampl berffaith o un prosiect yn dod â gwahanol arianwyr at ei gilydd. Ar ran y Pwyllgor hoffwn ddymuno pob llwyddiant i bawb sydd ynghlwn â’r Ganolfan ar gyfer y dyfodol.” | Cysylltwch â Deian Creunant ar 01686 611705/07855 276 740 am wybodaeth bellach.
|