| ||||||||||||
HAFANAMDANOM NI |
21 May 2003
Y Gronfa Gymunedol yn cwrdd a'i flaenoriaethau ac yn rhoi £2.1 miliwn i'r henoed
| ||||
Targedodd y Gronfa Gymunedol yng Nghymru, henoed a'u gofalwyr fel un o'i pedwar grup blaenoriaeth dros y 12 mis diwethaf. Cyflawnwyd y targedau hyd yma a dyfarnwyd £2,120,317 i henoed a'u gofalwyr yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig.
Mae dros 40,000 o bobl yng Nghymru'n dioddef oherwydd gorffwylltra. Cyflwr sy'n effeithio'r henoed yn bennaf ydyw, ond mewn achosion prin gall ieuenctid ddioddef ohono hefyd.
Un o'r grwpiau niferus sy'n gweithio'n y maes yw'r Gymdeithas Alzheimer, sy'n cynorthwyo'r henoed a'u gofalwyr. Bydd Cangen Y Fenni yn defnyddio grant datblygu o £151,988 gan y Gronfa Gymunedol i ddarparu gwasanaethau cyfeillio i ddioddefwyr gorffwylltra a'u gofalwyr. Gofalwyr di-dâl sy'n gofalu am lawer o'r rhai sy'n dioddef o orffwylltra. Nod y prosiect yn Y Fenni yw canfod gwirfoddolwyr a fydd yn derbyn hyfforddiant llawn a rhagarweiniad arbenigol i'r gwasanaeth. Byddant yn cyfeillio a chefnogi dioddefwyr i rheoli'r pryder, pwysau a'r unigrwydd sydd ynghlwm â'r cyflwr. Dywedodd Sue Phelps, Swyddog Datblygu: "Rydym wrth ein bodd â'r grant gan y Gronfa Gymunedol, bydd yn caniatáu i ni barhau â'n gwaith ac ymestyn ein gwasanaeth i ardal Casnewydd. Bydd ein gwirfoddolwyr yn helpu dioddefwyr i barhau â phleserau syml bywyd - chwarae bowls, nofio, mynd i ganolfannau garddio neu i'r sinema. Byddant hefyd yn darparu gwybodaeth a chyngor ar faterion amrywiol i'r dioddefwyr a'u gofalwyr. "Gwelsom fod prinder cefnogaeth yn y cyfnodau cynnar gan nad yw cyrff statudol yn ymyrryd nes i'r unigolyn gyrraedd argyfwng. Bydd ein cymorth rheolaidd ni yn canolbwyntio ar y person, ac yn parhau o'r diagnosis tan nad oes angen y gwasanaeth - gall hyn fod am flynyddoedd mewn rhai achosion. Dioddefwyr gorffwylltra yw tri chwarter y bobl sydd angen gofal tymor hir ac mae nhw ymhlith y rhai mwyaf bregus - mae nhw'n haeddu'r sylw a'r cymorth pennaf a bydd grant y Gronfa Gymunedol yn gwneud hynny'n bosib." Mudiadau eraill sy'n dathlu yw Canolfan Ysbaid Lles yr Henoed yng Nglyn Ebwy a dderbyniodd grant o £124,277 ar gyfer adnewyddu'r ganolfan bresennol, er mwyn parhau ac ymestyn gweithgareddau cymunedol. Bydd Eglwys Unedig Albany a Chapel Methodist Hwlffordd yn sefydlu clwb cinio i'r henoed, yn dilyn grant o £110,313 i atgyweirio neuadd sy'n fan cyfarfod i'r gymuned gyfan. Bydd henoed ymhlith buddiolwyr grant o £50,078 i Gynllun Cynnal Dioddefwyr Sir Ddinbych, ar gyfer rhoi gwybodaeth, cyngor, cymorth emosiynol a gosod offer i helpu dioddefwyr trosedd. Dosbarthodd y Gronfa Gymunedol gyfanswm o £1,275,278 i grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar draws Cymru gyfan yn y dyfarniad diweddaraf hyn o grantiau Dylai grwpiau sydd am gael ffurflenni cais neu ragor o wybodaeth ymweld â'r wefan: www.cronfa-gymunedol.org.uk neu ffonio 0845 7 273 273 (Cymraeg) neu 0845 7 91 91 91 (Saesneg). Nodiadau i olygyddion
1. Y Gronfa Gymunedol yw enw gweithredol Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, corff annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd er mwyn dosbarthu arian i gefnogi mudiadau elusennol, llesiannol a dyngarol. Mae 17 aelod ar y Bwrdd, yn cynnwys y Cadeirydd. Mae'r aelodau yn dyfarnu grantiau ar bwyllgorau grantiau penodol i Gymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r DG yn gyffredinol. 2. Dyfernir grantiau'r Gronfa Gymunedol gan Bwyllgor Cymru. Yr aelodau yng Nghymru yw Jeff Carrol (Cadeirydd), Elisabeth Watkins a Taha Idris. Aelodau Cyf-etholedig y Pwyllgor yw Margaret Dennis, Jenny Lewis a Dr Glyn Williams. 3. Prif nod y Bwrdd yw dyfarnu grantiau i gwrdd ag anghenion y rhai mewn cymdeithas sydd fwyaf dan anfantais a gwella ansawdd bywyd yn y gymuned. 4. Ers mis Hydref 1995, mae'r Gronfa Gymunedol, trwy'r rhaglenni grantiau, wedi dosbarthu £141 miliwn i grwpiau ledled Cymru. 5. Cyhoeddir rhestrau llawn o grantiau'r Gronfa Gymunedol ar y we: www.cronfa-gymunedol.org a rhestrir holl grantiau dosbarthwyr y Loteri ar y safle www.lottery.culture.gov.uk. Nodyn i Ddylunwyr Logo'r Gronfa Gymunedol yw'r logo a geir ar y datganiad hwn. (Arwydd y Loteri Genedlaethol yw'r logo "bysedd croes" ac felly ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer y Gronfa Gymunedol.) | Am wybodaeth bellach ffoniwch Deian Creunant ar 01686 611705.
|