Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

23 January 2004

Bobath yn derbyn arian Loteri


Yn ystod 2004 bydd y Loteri Genedlaethol yn dathlu ei degfed pen-blwydd a gan fod dros £650 miliwn o arian loteri eisoes wedi ei ddosbarthu i achosion da ar hyd a lled y wlad, gall Gymru hawlio ei bod wedi elwa’n fawr ohono.

Ond mae ymchwil ddiweddar gan y Gronfa Gymunedol, un o’r dosbarthwyr loteri yng Nghymru, yn dangos bod ceisiadau ar gyfer arian grant o rai ardaloedd yn Ne Cymru wedi bod yn llawer rhy isel o’u cymharu ag ardaloedd eraill. Felly mae’r Gronfa Gymunedol am glywed os ydych chi angen arian ar gyfer eich prosiect.

Un o’r grwpiau i elwa o’r Gronfa Gymunedol yn ddiweddar yw Canolfan Bobath Therapi Plant Cymru, a dderbyniodd £131,493 i gyflogi tri therapydd a fydd yn darparu sesiynau therapi rhwng 2 a 6 wythnos i blant sy’n dioddef o Barlys yr Ymennydd. Mae’r ganolfan, wedi ei lleoli yng Nghaerdydd ond yn rhoi cymorth am ddim i blant o bob cwr o Gymru. Mae’r therapi Bobath yn ychwanegol i’r hyn a gynigir yn y gymuned neu gan y Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd Linda Nash, Rheolwr Gweithredu Canolfan Bobath: “Un o brif amcanion therapi Bobath yw hyfforddi rhieni a gofalwyr mewn technegau therapi er mwyn iddynt eu cynnwys yn eu trefniadau dyddiol, felly gall y plentyn dderbyn therapi Bobath pob
dydd ar ôl dychwelyd adref. Wrth weld y plant yn y ganolfan unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, gall ein therapyddion adolygu eu datblygiad a’u cynnydd yn ogystal â’r rhaglen
therapi bresennol, ac ail asesu anghenion y plentyn a’r teulu. Er bod y trefniadau weithiau’n medru bod yn frawychus, roedd y cymorth a dderbynion ni yn ystod y drefn asesu yn ein hannog i gario ‘mlaen a chyflawni ein nod.”

Mae’r Gronfa Gymunedol yn rhoi arian i grwpiau gwirfoddol ac elusennol ac mae Jeff Carroll, Cadeirydd y Gronfa Gymunedol yng Nghymru yn annog grwpiau i gysylltu â nhw: “Ein nod yw sicrhau bod yr arian yn cael ei wario i ddiwallu anghenion y rhai mwyaf difreintiedig a gwella ansawdd bywyd. Ni chawsom gyfle i wneud hyn mewn rhai ardaloedd oherwydd bod nifer y ceisiadau’n isel a hoffem wella hynny yn y dyfodol. Os oes gan eich grŵp brosiect sy’n chwilio am arian, rhowch alwad i ni ar 012686 611700 – gallwn ni ddim ariannu popeth ond efallai gallwn ni’ch helpu chi.”

Mae grwpiau eraill yn eich ardal a dderbyniodd arian yn y cyhoeddiad diwethaf o grantiau’r Gronfa Gymunedol yn cynnwys: AVC Vision Foundation Blaenau Gwent, £44,307; Mental Health Matters Bridgend, £224,604; Engine House Community Project, £10,747; Dulais Valley Partnership, £29,990; Pillgwenlly Millenium Trust, £117,400; Tros Gynnal, £294,788 (grant Cymru gyfan).



Ymholiadau’r wasg:
Cysylltwch â Deian Creunant ar 01686 611705/07855 276 740 am wybodaeth bellach.