Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

23 January 2004

Arian Loteri i'r 'Afon yn yr Awyr'


Yn ystod 2004 bydd y Loteri Genedlaethol yn dathlu ei degfed pen-blwydd a gan fod dros £650 miliwn o arian loteri eisoes wedi ei ddosbarthu i achosion da ar hyd a lled y wlad, gall Gymru hawlio ei bod wedi elwa’n fawr ohono.

Ond mae ymchwil ddiweddar gan y Gronfa Gymunedol, un o’r dosbarthwyr loteri yng Nghymru, yn dangos bod ceisiadau ar gyfer arian grant o rai ardaloedd yng Ngogledd Cymru wedi bod yn llawer rhy isel o’u cymharu ag ardaloedd eraill. Felly mae’r Gronfa Gymunedol am glywed os ydych chi angen arian ar gyfer eich prosiect.

Un o’r grwpiau i elwa o’r Gronfa Gymunedol yn ddiweddar yw Ymddiriedolaeth Cychod Camlas Llangollen a dderbyniodd £36,852 er mwyn addasu cwch a hyfforddi defnyddwyr anabl i’w yrru. Mae’r grŵp yn gobeithio cwblhau’r gwaith adnewyddu erbyn diwedd mis Mai fel bod hyd at 30 o wirfoddolwyr anabl yn medru elwa o’r unig brosiect o’i fath yng Nghymru. Gobeithiant gydweithio â Chymdeithas Genedlaethol Cychod Camlas i sicrhau fod y gwirfoddolwyr yn derbyn cymhwyster achredig wedi iddynt ddilyn yr hyfforddiant.

Dywedodd Glyn Thomas, Cydlynydd Swyddfa Ymddiriedolaeth Cychod Camlas Llangollen: “Bydd yr hyfforddeion yn medru llywio’r cwch o Drefor i ‘Poachers Pocket’,
taith sy’n cynnwys dau dwnel a dwy draphont ddŵr. Rhoesom ymdrech arbennig i lunio’r cais hwn gan ein bod wedi cael ein gwrthod ar gyfer grant o’r blaen, felly penderfynon ni
ganolbwyntio ar graidd yr hyn roeddem am ei wneud a byddwn yn argymell fod grwpiau eraill yn gwneud hynny hefyd. Rydym wrth ein bodd gyda’r grant a hoffwn annog grwpiau cymwys eraill yn yr ardal i fynd amdani!”

Mae’r Gronfa Gymunedol yn rhoi arian i grwpiau gwirfoddol ac elusennol ac mae Jeff Carroll, Cadeirydd y Gronfa Gymunedol yng Nghymru yn annog grwpiau i gysylltu â nhw: “Ein nod yw sicrhau bod yr arian yn cael ei wario i ddiwallu anghenion y rhai mwyaf difreintiedig a gwella ansawdd bywyd. Ni chawsom gyfle i wneud hyn mewn rhai ardaloedd oherwydd bod nifer y ceisiadau’n isel a hoffem wella hynny yn y dyfodol. Os oes gan eich grŵp brosiect sy’n chwilio am arian, rhowch alwad i ni ar 01686 611700 – gallwn ni ddim ariannu popeth ond efallai gallwn ni’ch helpu chi.”

Mae grwpiau eraill yn eich ardal a dderbyniodd arian yn y cyhoeddiad diwethaf o grantiau’r Gronfa Gymunedol yn cynnwys: Conwy Connect for Learning Disabilities, £130,974; Fforwm Anabledd Sir y FFlint, £59,894; Cymdeithas Dystonia, £41,586 (grant Cymru gyfan); Tros Gynnal, £294,788 Tros Gynnal, £294,788 (grant Cymru gyfan a fydd yn cyflogi Swyddog Datblygu yng Nghogledd Cymru).




Ymholiadau’r wasg:
Cysylltwch â Deian Creunant ar 01686 611705/07855 276 740 am wybodaeth bellach.