Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

25 February 2004

Canolfan eu hun i Bensiynwyr Blaengar


Daeth sefydlu canolfan i drigolion hŷn Wrecsam gam yn nes yr wythnos hon pan glywodd Partneriaeth Parc Caia Cyf eu bod wedi derbyn £108,223 gan y Gronfa Gymunedol, un o ddosbarthwyr y loteri yng Nghymru. Bydd dwy flynedd o waith cynllunio yn dwyn ffrwyth wrth i Fforwm yr Henoed ar y stād gymryd rheolaeth o Ganolfan Deva, cyn ganolfan gymunedol. Bydd y ganolfan yn cael ei hadnewyddu i wella’r mynediad ac i ddarparu clwb cinio, adnoddau ymolchi a gwasanaethau eraill fel bo’r galw.


Mae Fforwm yr Henoed a sefydlwyd yn 1995, yn benodol ar gyfer y 15% o’r trigolion sydd dros 65 oed, eisoes yn rhedeg clwb cinio llwyddiannus a hwn fu’r sbardun i ddechrau’r cais. Pat Williams, Cydlynydd y prosiect sy’n esbonio mwy.
“Mewn ffordd mae’n clwb ni wedi dioddef oherwydd ei lwyddiant aruthrol gan fod llawer mwy am ddod yno nag y gallwn eu derbyn ac mae’r rhestr aros yn hir. Wrth gynnal arolwg o ddefnyddwyr daeth i’r amlwg fod llawer yn rhannu’r un diddordebau a bod angen canolfan bwrpasol i’r pensiynwyr.

“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r arian hyn, bydd yn rhoi cyfle i’r gwasanaeth wella’n arw yn y gymuned. Yr aelodau fydd yn dewis sut i dreulio’r diwrnod ac mae nhw eisoes wedi nodi nad yw nhw am ddilyn y drefn draddodiadol o ofal dydd – eistedd mewn cadair yn gwneud dim! Efallai fod rhai o'n haelodau yn araf wrth symud o gwmpas ond mae meddyliau nhw’n chwim iawn.”

Ychwanegodd un o’r trigolion lleol, Florence Hardman,
“Rwy’n 66 oed ond fe hoffwn fod yn 21 eto. Rwy’n gymharol iach ac yn mwynhau pob math o gelf a chrefft, rwy’n siŵr y gallwn i rannu fy sgiliau ag aelodau eraill y grŵp. Ein canolfan ni fydd hon ac o hyn ymlaen bydd gennym yr adnoddau i ddatblygu ymhellach, dydi hi ddim yn ‘Amen’ arnon ni eto!”

Y Gronfa Gymunedol fydd yn ariannu’r gwaith adeiladu ac adnewyddu yn y ganolfan a’r gobaith yw derbyn arian Cymunedau yn Gyntaf i dalu am y costau rhedeg. O gofio strategaeth y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer yr henoed dylai arweinwyr cymunedol annog a chefnogi eu pwyllgorau i geisio am arian i’r henoed. Dywedodd Derek Hughes, Swyddog Grant y Gronfa Gymunedol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru,
“ Er bod yr Henoed a’u gofalwyr yn un o flaenoriaethau’r Gronfa Gymunedol yng Nghymru prin fu’r ceisiadau gan grwpiau sy’n helpu’r henoed yng Ngogledd Cymru. Gobeithio fydd y grant hwn i Barc Caia yn hwb i ragor o grwpiau ddod ymlaen i drafod eu syniadau.”

Os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach neu drafod eich syniadau am brosiect, rhowch alwad i’r Gronfa Gymunedol ar 01686 611700.




Cysylltwch ā Deian Creunant ar 01686 611705/07855 276 740 am wybodaeth bellach.