Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

27 June 2003

Casnewydd yn derbyn hwb gan y Loteri


Derbyniodd Cymdeithas Addysg Teuluoedd Maesglas grant o £183,771 gan y Gronfa Gymunedol. Dyma'r cyfanswm mwyaf o nawdd i'r mudiad erioed ei dderbyn a bydd yn caniatau iddynt gyflogi staff am y tro cyntaf.

Mae y grup sydd wedi ei leoli yn ardal Maesglas o Gasnewydd, yn gweithio gyda pobl difreintiedig sydd wedi'u heithrio rhag cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau cymdeithasol. Bydd y prosiect yn rhoi hyfforddiant a chymorth i helpu unigolion di-fraint i ddod yn wirfoddolwyr brwd ac yn arweinwyr cymuned. Bydd cyfle hefyd iddynt dderbyn cmhwyster yn eu sgiliau newydd trwy'r Rhwydwaith Coleg Agored.

Mae Kerryanne Jacobsen Okesie, Llywydd Cymdeithas Addysg Teuluoedd Maesglas wrth eu bodd, dywedodd:
"Dyma goron ar ein mudiad. Dechreuon ni oddi fewn i'r gymuned, felly rydym yn y safle gorau i ddeall yr holl anghenion. Gallwn adnabod y rhwystrau a arweiniodd at eithrio pobl ac at ddiffyg ymwybyddiaeth a diddordeb cymunedol. Does dim darpariaeth i'n defnyddwyr ni ar hyn o bryd, rydyn ni'n flaengar wrth gynnig cefnogaeth iddynt ddysgu yn eu hamser eu hunain. Rydym ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos ac yn eu hannog i fynd tu hwnt i'w 'cylchfannau cysur'."

Bydd y grant gan y Gronfa Gymunedol yn caniatau i'r grup ddenu partneriaid i gydweithio â nhw, a'r cam cyntaf fydd penodi staff addas i gefnogi'r defnyddwyr a rhoi saib i'r gwirfoddolwyr prysur.

Ychwanegodd Kerryanne Jacobsen Okesie:
"Cawsom siom o'r ochr orau yn y Gronfa Gymunedol - mae wedi adfer ein ffydd bod nawdd yn dal ar gael i grwpiau sydd wedi seilio'n adarn yn y gymuned. Bydd yr arian hyn yn gwneud gwahaniaeth aruthrol ac yn cael effaith pell-gyrhaeddol ar y difreintiedig yn yr ardal hon."

Eisoes, derbyniodd Maesglas grant loteri blaenorol trwy'r rhaglen grantiau bychain Arian i Bawb Cymru a hynny a'u galluogodd nhw i fapio strategaeth glir i'w mudiad. Mae'r prosiect diweddaraf hyn yn ganlyniad uniongyrchol i'r cynllunio hwnnw.

Ategodd Rosmary Butler, yr Aelod Cynulliad lleol, hapusrwydd y grup:
"Dyma newyddion gwych i Gymdeithas Maesglas. Mae'r Gronfa Gymunedol wedi clustnodi Casnewydd fel un o'i flaenoriaethau felly rwyn annog pob grup lleol sydd â syniadau am brosiectau cymunedol i gysylltu â'r Gronfa i drafod ceisiadau grant posib. Gobeithio welwn ni lawer o grwpiau tebyg i Faesglas yn derbyn arian gan y Gronfa Gymunedol."

Dyfarnodd y Gronfa Gymunedol gyfanswm o £1,495,536 i grwpiau cymunedol a gwirfoddol ar draws Cymru gyfan yn eu cyhoeddiad grantiau diweddaraf. Mae rhestr lawn o'r grantiau ar gael ar y wefan neu trwy gysylltu â swyddfa Cymru.




Cysylltwch â Deian Creunant Rheolwr Polisi a Chyfathrebu ar 01686 611705 / 0797 35 291 35