Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

12 December 2003

Lwc ar y Loteri i Ddyffryn Aman a Dinefwr


Bydd dau grŵp o Sir Gâr yn dathlu’r Nadolig yn gynnar yr wythnos hon wedi iddynt lwyddo i dderbyn grantiau gan y Gronfa Gymunedol, y dosbarthwr loteri sy’n rhoi arian i elusennau a grwpiau gwirfoddol.

Derbyniodd Menter Dyffryn Aman £59,390 i gyflogi dau Swyddog ieuenctid. Dywedodd Eirian Davies, Rheolwr Rhanbarth, “Nododd Cynllun Cymunedol Sir Gâr bod prinder sylweddol o adnoddau ar gyfer yr ifanc, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Felly cyfrifoldeb cyntaf y ddau swyddog fydd edrych ar broffil yr ardal a rhwydweithio gyda phartneriaid a defnyddwyr i sefydlu gweithgareddau yn yr ardal. Bydd yr arian yn caniatáu i ni ddarparu cyfleoedd i’r ieuenctid yn eu milltir sgwâr ac wrth gymryd rhan yn y gymuned mae nhw’n siŵr o gynyddu’u sgiliau a’u hyder.”

Llwyddodd Canolfan Gymunedol Llangadog, i sicrhau grant o £99,925 i wella’r adnoddau yn y neuadd bentref. Y ganolfan fydd yr unig leoliad gellir ei ddefnyddio gan y gymuned gyfan felly bydd yn adnodd cymunedol hanfodol. Bydd o leiaf deugain o grwpiau yn elwa o’r atgyweiriadau i’r neuadd felly daw budd i nifer helaeth o bobl.




Dywedodd Jeff Carroll, Cadeirydd y Gronfa Gymunedol yng Nghymru, “Roedd hi’n bleser i Bwyllgor Cymru gefnogi’r prosiectau haeddiannol hyn yn Sir Gaerfyrddin. Efallai fod nifer y buddiolwyr yn llai mewn ardaloedd gwledig ond ‘dydy nhw ddim yn llai pwysig i ni a gwyddom bydd y grantiau hyn yn helpu’r grwpiau fynd o nerth i nerth yn eu cymunedau.”

Nodiadau i Olygyddion

1. Y Gronfa Gymunedol yw enw gweithredol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol, corff annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd er mwyn dosbarthu arian i gefnogi mudiadau elusennol, llesiannol a dyngarol. Mae’r Gronfa Gymunedol yn derbyn 4.7c o bob £1 a werir ar y loteri.
2. Enw gweithredol y Gronfa Gymunedol yw Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol.
3. Ers mis Hydref 1995, mae’r Gronfa Gymunedol, trwy’r rhaglenni grantiau, wedi dosbarthu £145 miliwn i grwpiau ledled Cymru. Mae gwybodaeth lawn ar ein gwefan yn www.cronfa-gymunedol.org.uk



Ymholiadau’r wasg:
Cysylltwch â Deian Creunant ar 01686 611705/07855 276 740 am wybodaeth bellach.