Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI/PWY YDYM NI


g oppenheim



Gerald Oppenheim

Cyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebu

Gerald Oppenheim yw'r Cyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebu, mae'n gyfrifol am ddatblygiad polisi, cysylltiadau cyhoeddus a materion y wasg a'r cyfryngau.

Penodwyd i'w swydd yn Chwefror 2002 ar ôl bod yn Gyfarwyddwr y DG a Chynllunio Corfforaethol gyda'r Gronfa Gymunedol ers Awst 1995. Yn y swydd honno (ef oedd un o'r aelodau cyntaf o staff Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol ar y pryd) roedd yn gyfrifol am ddatblygiad polisi a'r rhaglenni grantiau Rhyngwladol, Ymchwil a phrosiectau ar draws y DG.

Bu'n Gyfarwyddwr Uned Grantiau Bwrdeistref Llundain 1985Ó1995, lle'r oedd yn gyfrifol am gyllideb o £30 miliwn, yn dyfarnu grantiau i tua 650 o fudiadau gwirfoddol yn Llundain. Cyn hynny, gweithiodd i Gyngor Llundain Fwyaf am 12 mlynedd mewn nifer o swyddi gwahanol, yn yr Adran Dai yn bennaf. Daeth tro ar fyd iddo yn 1979 pan gymerodd ef gyfrifoldeb am gynllun bychan (ar yr adeg honno) o grantiau i fudiadau tai gwirfoddol oedd yn cynorthwyo pobl sengl digartref yn Llundain. Hanes yw'r gweddill erbyn hyn.