Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI/PWY YDYM NI


r buxton



Richard Buxton

Prif Weithredwr

Ymunodd Richard â'r Gronfa Gymunedol yn Nhachwedd 2001.

Richard oedd Cyfarwyddwr Gweithredol y Bwrdd Cymorth Cyfreithiol, lle trawsnewidiodd y drefn cymorth cyfreithiol. Roedd yn gyfrifol am staff o 1,300, wedi eu lleoli mewn 11 swyddfa ranbarthol, pob un yn cael ei reoli gan rheolwr rhanbarthol. Roedd yn gyfrifol am gyllid o £1.6 biliwn, o wariant cyhoeddus.

Pan sefydlwyd y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn Ebrill 2000, penodwyd ef yn Aelod o'r Comisiwn ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol (Gweithrediadau) gan yr Arglwydd Ganghellor.

Cyn ymuno â'r Bwrdd Cymorth Cyfreithiol , Richard oedd Cyfarwyddwr Tai Cyngor Dinas San Steffan. Derbyniodd y swydd yn dilyn y sgandal 'homes for votes' a thrawsnewidiodd ef yr adran yn llwyr. Gwellodd y gwasanaeth i'r cwsmer; cynyddodd cynhyrchiad staff; a ffurfiwyd partneriaethau newydd i fynd i'r afael â diweithdra a thor-cyfraith ar stadau tai mawr.

Ar ddechrau ei yrfa bu'n ymgynghorydd rheoli uwch gyda Capita a Coopers & Lybrand, lle cynghorodd ystod eang o gleientau o'r sector cyhoeddus ar reoli newid a gwella perfformiad.