|
Mudiad datganoledig yw'r Gronfa Gymunedol sy'n gweithio ar draws y DG gyfan.
Yr Ysgrifennydd Diwylliant Tessa Jowell sy'n penodi'r 17 aelod o'r Bwrdd. Nhw sy'n gyfrifol am lywio cyfeiriad strategol y mudiad a'r grantiau. Y Tîm Rheoli sy'n gyfrifol am rediad dyddiol y mudiad.
Mae tair swyddfa ar ddeg yn gwasanaethu pedair gwlad y DG a naw rhanbarth yn Lloegr.
Mae gan Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon eu pwyllgorau dyfarnu grantiau eu hunain. Mae pwyllgor dyfarnu rhanbarthol ym mhob un o ranbarthau Lloegr. Y pwyllgor Grantiau strategol sy'n dyfarnu grantiau'r DG gyfan a Lloegr gyfan.
|
|
| |