Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

19 December 2003

Arian diweddaraf gan y Loteri i wella iechyd ac addysg plant ar draws y byd


Heddiw dyfarnwyd dros £1.4 miliwn i helpu plant difreintiedig ar draws y byd dan Rhaglen grantiau rhyngwladol y Gronfa Gymunedol.

Dywedodd Diana Brittan, Cadeirydd y Gronfa Gymunedol: “Mae’r holl grwpiau a amlygwyd heddiw yn gweithio tuag at roi amgylchfyd iachach a mwy cynhyrchiol i blant sy’n byw mewn gwledydd difreintiedig. Mae ein Rhaglen grantiau rhyngwladol yn dyfarnu grantiau i fudiadau datblygu a leolir yn y DU sy’n gweithio mewn partneriaeth â mudiadau tramor. Hyd yma mae’r rhaglen hwn wedi rhoi 639 o grantiau gwerth cyfanswm o £145 miliwn i fudiadau gwahanol.”

Bydd Plan International UK, a dderbyniodd £811,571, yn ehangu’r gwaith addysg yn ardaloedd Port Loko a Bombali yn Sierra Leone. Mae amgylchiadau’r cymunedau yn ddifreintiedig iawn oherwydd y rhyfel cartref diweddar.

Dywedodd Patricia Ray, Rheolwr Rhaglen Plan International UK: “Mae’r prosiect yn cyfrannu at y gwaith hanfodol o hyrwyddo heddwch, cymodi ac ail adeiladu yn y cymunedau a ddinistriwyd gan y rhyfel. Plant oedd yn dioddef bennaf, ond plant hefyd oedd yn tramgwyddo. Mae angen dirfawr i gymathu’r plant oedd yn gyn-filwyr yn ôl i’w cymunedau a sicrhau fod cyfle iddynt dderbyn addysg a chreu bywoliaeth yn y dyfodol. Mae cymunedau dan fygythiad hefyd o’r clefyd byd-eang AIDS. Nod y prosiect yw sicrhau fod pob plentyn yn medru derbyn addysg gynradd o’r radd flaenaf yn y cymunedau lle mae heddwch a chymodi ar waith a lle mae camau ar droed i atal lledaeniad HIV/AIDS.

“Mae Plan UK a’i bartneriaid cymunedol wrth ein bodd o gyfrannu at y gwaith pwysig hwn ac edrychwn ymlaen i gydweithio gyda’r Gronfa Gymunedol ar y prosiect.”

Nod ‘International Children’s Trust’, a dderbyniodd £210,249, yw helpu plant y stryd ym Mecsico ac Ecwador sy’n perthyn i deuluoedd tlawd lle mae trais a chamddefnyddio alcohol yn gyffredin.

Dywedodd Sarah Thomas de Benitez, Prif Weithredwr ‘International Children’s Trust’: “ Mae’r rhaid i gannoedd o filoedd o blant sy’n gweithio ar strydoedd dinasoedd De America adael yr ysgol gynradd. Daw’r plant yn gaeth mewn cylchoedd dieflig tlodi a fydd yn cael effaith ar weddill eu bywydau. Rydym wrth ein bodd bod y grant newydd hwn gan y Gronfa Gymunedol yn caniatáu i ni fynd benben â’r broblem hwn.

“Bydd y prosiect cyffroes hwn gan ‘International Children’s Trust’ a sefydliadau JUCONI yn Ecwador a Mecsico yn helpu plant oed cynradd i ddiwallu anghenion addysgol plant y stryd. Dros y tair blynedd nesaf byddwn yn adeiladu pontydd rhwng plant, teuluoedd, athrawon a chymunedau gan agor y dosbarthiadau ysgol i blant tlotaf y dinasoedd. Bydd ein prosiect ni yn esiampl o beth ellir ei wneud mewn dinasoedd eraill ar draws y byd.”

Derbyniodd ‘Children in Crisis’ £330,354 dros dair blynedd i helpu plant difreintiedig yn Tanzania i dderbyn addysg yn ysgolion y wladwriaeth a thrwy gynlluniau addysg llai ffurfiol.

Dywedodd Mark McKeown, Prif Weithredwr ‘Children in Crisis’: Mae ‘Children in Crisis’ a’i bartner yn Tanzania, Canolfan Mkombozi i Blant y Stryd, wrth ein bodd fod y cais i’r Gronfa Gymunedol wedi llwyddo. Bydd dros bum mil o’r plant mwyaf difreintiedig yn Tanzania yn derbyn addysg o ganlyniad i’r rhaglen hon a bydd y grant yn cyfrannu at ostyngiad sylweddol yn nifer y plant sy’n byw ar strydoedd tref Moshi.”

Derbyniodd Cyfeillion Rhieni Ysgol Gynradd Kirima £98,960 i wella addysg iechyd mewn ysgolion a’r gymuned leol trwy ddarparu dŵr yfed glân, carthffosiaeth a cherbyd i gludo cleifion i’r ysbyty agosaf.

Dywedodd Peter Packman, o gymdeithas Cyfeillion Rhieni Ysgol Gynradd Kirima: “Mae bywydau 4,000 o bobl cymuned anghysbell Kanungu, , De Orllewin Uganda ar fin newid er gwell. Bydd grant y Gronfa Gymunedol yn arwain at ddarparu gofal iechyd, addysg iechyd, dŵr glân mewn pibellau ac yn bwysicaf oll, byddant yn creu incwm hir dymor trwy dyfu te.

“Bydd cyfradd uchel o farwolaethau a salwch ymhlith rhieni a phlant o ganlyniad i Malaria, AIDS a Typhoid, sy’n amlygu ei hun yn aml yng nghylchgronau’r ysgol, yn gostwng. Dywedodd ein partner yn Uganda, “WOW, ALLELUIA a DIOLCH” pan glywodd y newyddion.

Mae mudiadau eraill a dderbyniodd grantiau heddiw yn cynnwys: African Medical and Research Foundation Limited £499,128; BasicNeeds £468,663; Concern Universal £490,230; Health Unlimited £399,110; Interact Worldwide £433,309; Intermediate Technology Development Group £737,986; LEPRA (The British Leprosy Relief Association) £575,279; Scottish Catholic International Aid Fund £156,193; The United Kingdom Committee for UNICEF £701,678; and Voluntary Service Overseas £534,173.







Ymholiadau'r wasg: cysylltwch â Deian Creunant ar 01686 611705.