Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

25 February 2004

Hwyl yn y YMCA


Derbyniodd YMCA Bargoed anrheg o dros £165,000 i adnewyddu’r ganolfan boblogaidd ar achlysur ei phen-blwydd yn 65 yn ddiweddar. Bydd y grant loteri gan y Gronfa Gymunedol yn darparu rheolwr llawn amser ac yn cynorthwyo i adnewyddu’r adeilad er mwyn datblygu mwy o weithgareddau ar gyfer grwpiau o bobl anabl a henoed sy’n cael trafferth i symud o gwmpas.

Mae’r ganolfan wedi leoli ar 5 llawr a bydd yr arian yn talu am osod dau lifft, addasu’r drysau, toiledau i bobl anabl a rheolwr llawn amser. Mae dros 200 o bobl yn mynychu’r ganolfan bob wythnos, ond bydd y gwaith adnewyddu a’r gweithgareddau newydd a ddaw yn eu sgil, yn arwain at ddefnydd llawn o’r adeilad.

Mae Joanne Price, y Rheolwr yn hapus iawn â’r llwyddiant.
“Rydym wrth ein bodd ein bod yn medru adnewyddu ein hadeilad i gynorthwyo’r rhai sy’n cael trafferth i symud o gwmpas i’w galluogi i ddefnyddio’r adnoddau i gyd. Mae grwpiau o henoed hefyd wedi dangos diddordeb mewn defnyddio’r adeilad ar gyfer dawnsio, clwb cinio a hyfforddiant cyfrifiadurol. Rydym yn ymwybodol fod nifer y ceisiadau o’r ardal hon yn isel ac rydym yn annog grwpiau eraill yn yr ardal i gysylltu â’r Gronfa Gymunedol i weld os fyddai eu prosiect nhw yn addas i dderbyn arian.”

Dywedodd Jeff Carroll, Cadeirydd y Gronfa Gymunedol yng Nghymru.

“Mae Pwyllgor Cymru yn falch iawn o gefnogi YMCA Bargoed gan mai hon yw’r ganolfan fwyaf yn Gilfach a bydd yr arian yn caniatáu iddynt symud ymlaen i wella’r adeilad a datblygu mwy o weithgareddau i gynnwys y gymuned ehangach.”

Bydd YMCA Bargoed yn penodi rheolwr llawn amser cyn hir a fydd yn goruchwylio’r gwaith adnewyddu ac yn sicrhau fod y mudiad yn rhedeg yn esmwyth.




Cysylltwch â Deian Creunant ar 01686 611705/07855 276 740 am wybodaeth bellach.