Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

23 January 2004

Gyrru ar y we


Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae ieuenctid sydd heb arian neu’n dioddef o anawsterau llythrennedd yn llwyddo i basio prawf gyrru neu gael swydd? Wel nawr, mae help wrth law yn ardal Llanelli, diolch i grant loteri o dros £150,000. Bydd grant gan y Gronfa Gymunedol yn caniatáu i Brosiect Canolfan Llanelli Cyf ddarparu mynediad i DG a hyfforddiant gyrru i rai na fyddai’n gallu gwneud hynny o ran eu hunain.

Bob dydd mae dros 35 o bobl ifanc yn mynychu’r ganolfan sydd ar agor rhwng 9.30 y bore a 8.00 y nos ar bum niwrnod yr wythnos. Mae’r ganolfan yn darparu gwybodaeth a chyngor, sesiynau galw-heibio, gêmau a chyngor ar atal genhedlu. Bydd yr arian yn talu am swyddog gwybodaeth, goruchwylio’r ganolfan a hyfforddwr gyrru.

Mae Averill Rees, Cydlynydd y Prosiect wrth ei bodd gan y bydd yr arian yn fodd iddynt ddatblygu syniadau’r ieuenctid eu hunain ar gyfer y ganolfan.
“Os ydych chi’n byw y tu allan i’r dref, mae’r cysylltiadau trafnidiaeth yn ofnadwy ac wrth roi hyfforddiant gyrru am ddim, byddwn ni’n gallu annog y rhai sy’n frwd i ddysgu ond heb yr arian i wneud hynny. Bydd hynny’n gymorth iddynt ddarganfod swyddi. Bydd arian y Gronfa Gymunedol hefyd yn golygu y gallwn ni ddatblygu’r caffi seibar sy’n helpu llawer o’r ieuenctid i oresgyn y trafferthion llythrennedd. Mae’r ganolfan wedi bod yn agored ers 15 mlynedd ac rydym wedi arloesi gyda nifer o brosiectau newydd ac mae’r rheini wedi cael derbyniad da gan y gymuned a gobeithio bydd hyn yn parhau.”
Ategodd Jeff Carroll, Cadeirydd y Gronfa Gymunedol yng Nghymru, gefnogaeth y pwyllgor.
“Wrth siarad â’r ieuenctid mae staff y prosiect, wedi nodi rhai meysydd yr hoffai’r defnyddwyr gael cymorth ynddynt, llythrennedd a phroblemau trafnidiaeth yn bennaf, gobeithio bydd y grant yn gymorth i ddatrys nifer o’r problemau hynny. Rwy'n bles i weld y bydd arian loteri yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ieuenctid yn Llanelli.”



Ymholiadau’r wasg:
Cysylltwch â Deian Creunant ar 01686 611705/07855 276 740 am wybodaeth bellach.