Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI

13 November 2003

Rhagor o wasanaethau i ieuenctid anabl Caerdydd


Bydd ieuenctid anabl a rhai sy’n dioddef o salwch difrifol o gymunedau croenddu a lleiafrifoedd ethnig yn elwa wedi iddynt dderbyn dros £50,000 o grant loteri gan y Gronfa Gymunedol. Bydd yr arian yn caniatáu i’r grŵp, Access for Black and Minority Ethnic Children and Young People with Disabilities (ABCD), gyflogi swyddog datblygu i weithio’n benodol gyda phobl 16-25 oed.

Bydd y swyddog datblygu yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael yng Nghaerdydd a’r Fro, yn rhedeg fforwm o ieuenctid ac yn sicrhau fod gan ieuenctid gynrychiolaeth ar grwpiau lleol perthnasol.

Mae Ms Wahida Kent, cydlynydd prosiect ABCD, wrth ei bodd gyda’r grant, “’Does dim amheuaeth fod ieuenctid yn y sector hwn heb eu cynrychioli’n llawn yn y gorffennol. Bydd y grant yma gan y Gronfa Gymunedol yn sicrhau fod cyfle i’r ieuenctid leisio barn a gallant gymryd rhan lawnach a mwy amlwg a gwerthfawr o fewn y gymdeithas.”

Ffurfiwyd ABCD ym 1992 o nodwyd yr angen am y prosiect hwn gan yr ieuenctid a gynorthwywyd dros y degawd diwethaf, sydd erbyn hyn rhwng 16-18 oed.

Amlinellodd Jeff Carroll/parhad…


Amlinellodd Jeff Carroll, Cadeirydd y Gronfa Gymunedol yng Nghymru y rheswm dros y dyfarniad hwn, “Dangosodd ein hymchwil fod y prif fudiadau sy’n gweithio gyda ieuenctid anabl yn cyfeirio at ieuenctid anabl o gymunedau croenddu a lleiafrifoedd ethnig fel ‘grŵp anweledig’ nad yw’n defnyddio’u gwasanaethau. Mae nhw gyd yn cydnabod fod y grŵp bregus hwn yn cael eu hesgeuluso ond wirioneddol angen cyngor, gwybodaeth a chyngor arbenigol. Gobeithio fydd y grant hwn yn agor y drws i ddarparu mwy o gymorth i’r bobl ifanc hyn.”

Bwriada ABCD hysbysebu’r swydd yn fuan er mwyn i’r swyddog datblygu ddechrau’r gwaith yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Dylai grwpiau sydd am gael ffurflenni cais neu ragor o wybodaeth ymweld â'r wefan: www.cronfa-gymunedol.org.uk neu ffonio 0845 7 273 273 (Cymraeg) neu 0845 7 91 91 91 (Saesneg).

Nodiadau i Olygyddion

1. Y Gronfa Gymunedol yw enw gweithredol Bwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol, corff annibynnol a sefydlwyd gan y Senedd er mwyn dosbarthu arian i gefnogi mudiadau elusennol, llesiannol a dyngarol. Mae’r Gronfa Gymunedol yn derbyn 4.7c o bob £1 a werir ar y loteri.
2. Enw gweithredol y Gronfa Gymunedol yw Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol.
3. Ers mis Hydref 1995, mae’r Gronfa Gymunedol, trwy’r rhaglenni grantiau, wedi dosbarthu £145 miliwn i grwpiau ledled Cymru. Mae gwybodaeth lawn ar ein gwefan yn www.cronfa-gymunedol.org.uk


Cysylltwch â Deian Creunant ar 01686 611705/07855 276 740 am wybodaeth bellach.