Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI/PWY YDYM NI


r gutch



Richard Gutch

Cyfarwyddwr Lloegr a'r DG

Penodwyd Richard Gutch yn Gyfarwyddwr Lloegr ar ddiwedd Ebrill 2001. Yn Ionawr 2002, daeth hefyd yn gyfrifol am grantiau Rhyngwladol, Ymchwil a'r DG.

Cyn hynny, ef oedd Prif Weithredwr Gofal Arthritis (1992-2001). Dan ei arweinyddiaeth, datblygodd Gofal Arthritis ei rhaglenni hunan-rheoli, yn ogystal ag ehangu'r rhwydwaith o wirfoddolwyr a changhennau. Cyflwynodd Richard rwydwaith o reolwyr rhanbarthol a gweithiodd gyda'r ymddiriedolwyr ar drefniadau llywodraethu'r elusen ac ar nod a chynllun strategol newydd.

Cyn ymuno â Gofal Arthritis ef oedd Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Datblygu Adnoddau) y Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol, lle bu'n gyfrifol am y gwaith gyda llywodraeth leol a chytundebau. Roedd yn gyd-awdur yr adroddiad On-Trust ar hyfforddi ymddiriedolwyr, ac yn awdur Contracting Lessons o'r UD a chyhoeddiadau eraill.

Mae'n gyn-gadeirydd i'r Gynghrair Cyflyrau Meddygol Hir Dymor, a bu'n gadeirydd ac is gadeirydd o Gymdeithas Prif Weithredwyr Mudiadau Gwirfoddol. Mae wedi bod yn weithredol yng nghyhoeddiadau ACEVO ar gynnwys defnyddwyr, costau craidd a datganoli a rhanbartholi.