| ||||||||||||
HAFANAMDANOM NIPWY YDYM NI |
Will Miller
Cyfarwyddwr Adnoddau
Dr Will Miller yw'r Cyfarwyddwr Adnoddau. Cyn hynny ef oedd Cyfarwyddwr Systemau Gwybodaeth y Gronfa ers 26 Tachwedd 2001. Ei swydd flaenorol cyn ymuno â'r Gronfa Gymunedol oedd Cyfarwyddwr TG y Gwaddol Cenedlaethol dros Wyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau (NESTA).
Ar ddechrau'r wythdegau yn Awstralia datblygodd ddiddordeb mewn cyfrifiaduron ym maes Gwasanaeth Cudd Amddiffyn. Yn ddiweddarach ym maes Cyllid Amddiffyn, ef oedd rhaglennwr cyntaf y systemau oedd yn trosglwyddo'r prif wybodaeth gyfrifo o'r brif system i'r cyllidebau blynyddol oedd yn ymddangos ar ben bwrdd y cyfrifiaduron.
Ar ôl symud i'r DG, rhoddodd gefnogaeth i system a chronfa ddata adran grantiau Loteri Cyngor Celfyddydau Lloegr (1995-98) a datblygodd y system oedd yn trosglwyddo data ystadegol i'w gyhoeddi ar y wefan. Yn 1998 penodwyd ef yn Bennaeth Gweinyddu a Chyllid gyda NESTA cyn dod yn Gyfarwyddwr TG yno. Derbyniodd ei syniad o asesiadau allanol gan ddefnyddio Extranet, y gil-wobr mewn cystadleuaeth i'r 100 gorau yn Sheer Inspiration yn 2000. Mae ganddo ddoethuriaeth ar Finnegans Wake gan James Joyce a bu'n bencampwr cleddyfau dros Ddwyrain Sussex. |