|
Nod y Gronfa Gymunedol yw rhoi grantiau yn bennaf i grwpiau sy'n cwrdd ag anghenion y rhai mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas a hefyd i wella ansawdd bywyd yn y gymuned.
Rydym yn rhedeg nifer o raglenni grantiau amrywiol sy'n addas i fudiadau a phrosiectau gwahanol.
Nid oes rhaid i'ch mudiad fod wedi cofrestru fel elusen i ymgeisio, ond mae'n rhaid ei fod wedi sefydlu at ddiben elusennol, llesiannol neu ddyngarol.
Mae'n rhaid i chi ymgeisio i'r wlad neu'r rhanbarth lle mae'r mwyafrif o bobl a fydd yn elwa o'r prosiect yn byw. Dylai prosiectau sy'n gweithio ar draws y DG gyfan, Lloegr gyfan, mwy nag un wlad o'r DG neu fwy na thri rhanbarth o Loegr, ymgeisio i'r Swyddfa grantiau strategol.
|
|
| |