Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI/EIN RHAGLENNI GRANTIAU

Ein rhaglenni grantiau




Rydym yn rhedeg nifer o raglenni grantiau sy'n addas i grwpiau a phrosiectau gwahanol.

Mae'r Grantiau i brosiectau mawr ar gyfer grwpiau sydd â phrosiect sy'n costio dros £60,000 (neu dros £30,000, os yw'n cynnwys eiddo).

Mae'r Grantiau i brosiectau canolig ar gyfer grwpiau sydd â chyfanswm prosiect sy'n costio (nid mewn un flwyddyn yn unig) dan £60,000 (neu dan £30,000 os yw'n cynnwys eiddo).

Mae'r Rhaglen grantiau strategol ar gyfer prosiectau DG gyfan neu Loegr gyfan, neu ar gyfer prosiectau sy'n gweithio mewn mwy nag un wlad yn y DG neu dri neu ragor o ranbarthau Lloegr. Dyfernir y grantiau dan ein Rhaglenni grantiau mawr a chanolig. Nid oes uchafswm i faint y grant cewch chi geisio amdano.

Rydym yn rhedeg Rhaglen grantiau rhyngwladol ar gyfer mudiadau o'r DG sy'n rhedeg prosiectau datblygu dramor.

Mae'r Rhaglen grantiau ymchwil ar gyfer mudiadau gwirfoddol sy'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ymchwil ym meysydd ymchwil meddygol a chymdeithasol.

Mae'r rhaglen Arian i Bawb yn rhoi grantiau bychain i grwpiau bychain.

small green arrow
Grantiau i brosiectau mawr
small green arrow
Grantiau i brosiectau canolig
small green arrow
Grantiau strategol
small green arrow
Grantiau rhyngwladol
small green arrow
Grantiau ymchwil
small green arrow
Arian i Bawb