Ein nod yn y rhaglen hon yw ariannu prosiectau effeithiol sy'n mynd i'r afael ag achosion tlodi a difreintedd ac yn gwneud newid hir dymor i fywyd y bobl fwyaf difreintiedig.
Rydym yn dyfarnu grantiau i fudiadau datblygu wedi eu lleoli yn y DG sy'n gweithio mewn partneriaeth â mudiadau o dramor. Edrychwch ar grynodeb y rhaglen i gael gwybodaeth am ein ffocws daearyddol a'n blaenoriaethau ariannu.
Gallwn ariannu prosiectau hyd ar bum mlynedd. Isafswm maint grant yw £60,000. Rydym wedi ariannu prosiectau gwerth cyfanswm o £128.8 miliwn. Ar hyn o bryd mae chwech y cant o'n cyllid grantiau wedi ei glustnodi i'r Grantiau rhyngwladol.
Noder: Ni allwn ariannu unigolion na mudiadau sydd wedi eu lleoli y tu allan i'r DG.
|