Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/ARIANNU EICH PROSIECT/CYN GWNEUD CAIS

Cyn gwneud cais





Cyn gwneud cais am grant gan y Gronfa Gymunedol dylech wneud yn siŵr fod eich mudiad yn gymwys. Mae nifer o geisiadau’n aflwyddiannus am nad yw’r mudiad yn cyfateb i’n rheolau cymhwyster neu’n methu cwrdd â’n anghenion sylfaenol.

Mae eich prosiect yn fwy tebygol o lwyddo os yw’n disgyn o fewn ein blaenoriaethau ariannu lleol.

Peidiwch â gwastraffu’ch adnoddau yn gwneud cais na fedrwn ni ei ariannu, cewch ragor o wybodaeth ar pam mae ceisiadau’n methu.

Cofiwch fod eich swyddfa Cronfa Gymunedol leol yno i’ch helpu. Rydym yn cynnal digwyddiadau a seminarau i’ch cynghori ar beth sy’n gwneud cais da.

Os nad yw’ch prosiect yn addas i ni ei ariannu, efallai bod arianwyr eraill ar gael i’ch cynorthwyo.