![]() | ![]() |
| ||||||||||
![]() |
![]() |
HAFANARIANNU EICH PROSIECTCWBLHAU EICH CAIS |
Defnyddio'r Ffurflen Gais Elecroneg (EAF)
| |||||||
Rydym yn cynnig ffurflenni cais mewn fformat EAF - Ffurflen Gais Electroneg.
Mae'r system EAF yn cynnwys yr adrannau canlynol:
- Ffeil ffurflen (.elf) yn cynnwys disgrifiad mewn côd o'r ffurflen gais; - Ffeil help(.elh) yn cynnwys arweiniad a'r nodiadau cymorth ar ddefnyddio'r system a llenwi'r ffurflen, a gellir eu gweld yn y ddewislen Help; - Meddalwedd EAF, sy'n darllen y Ffeiliau ffurflen a Help a'u dangos ar eich sgrîn; · Ffeil ateb (.elz) sy'n cadw eich atebion. Noder: Mae'n rhaid i chi lwytho y meddalwedd EAF cyn y medrwch chi ddefnyddio'r ffeiliau eraill. Y lleoliad ar gyfer y meddalwedd EAF yw C:\Program Files\EAF. Mae'r ffeiliau Ffurflen a Help mewn ffolder ffeiliau yn yr un lleoliad. Mae'n bosib storio'r ffeiliau ateb yn unrhyw leoliad ar eich cyfrifiadur ond byddem yn argymell eu cadw yn yr un ffolder ffeiliau. Ffeiliau ffurflen Mae ffeiliau Ffurflen a Help ar wahân ar gyfer pob ffurflen gais. Os oes gennych fwy nag un ffurflen ar eich cyfrifiadur cewch ddewis pa un yr hoffech ei defnyddio o'r ddewislen Start/Programs/EAF neu o fewn y rhaglen trwy ddefnyddio 'Open Form' o'r ddewislen Ffeil. Ffeiliau ateb Rydym yn argymell i chi gadw eich atebion yn rheolaidd gan ddefnyddio Save as neu Save. Bydd hynny'n creu ffeil ateb (.elz). os ydych yn gweithio ar fwy nag un ffurflen efallai bydd gennych nifer o ffeiliau ateb Mae'n bosib storio'r ffeiliau ateb yn unrhyw leoliad ar eich cyfrifiadur ond byddem yn argymell eu cadw yn C:\Program Files\EAF. Gallwch agor Ffeil ateb o'r 'Open Answer File' neu trwy Windows Explorer. Mae'n rhaid cadw eich ffeil ateb ar ddisg hyblyg i'w anfon i'r Gronfa Gymunedol neu Arian i Bawb Cymru gyda'r dogfennau perthnasol i gefnogi'r cais. Cofiwch nodi eich enw, enw'r mudiad, rhif ffôn a'r math o gais ar label y ddisg hyblyg. Methiant ar y system Os bydd y system, naill ai eich cyfrifiadur neu ar y meddalwedd EAF yn methu, bydd y rhaglen yn ceisio cadw copi o'ch atebion (.bak). Mae'r llwyddiant i wneud hynny yn dibynnu ar natur y methiant. Os yw hyn yn llwyddo, bydd y system yn gofyn os ydych am agor y ffeil ateb a gadwyd. Dylech ateb 'Ie', yn enwedig os nad oeddech wedi cadw eich atebion yn ddiweddar. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio hwn os yw eich ffeil ddiweddaraf yn well gennych. Rhannu ffeiliau Os ydych yn bwriadu anfon eich Ffeil ateb i rywun arall er mwyn iddynt weithio arno, byddant angen iddynt gael y meddalwedd EAF a'r Ffurflen ffeil briodol ar eu cyfrifiadur. Gallwch anfon y rheiny atynt hefyd naill ai ar ddisg hyblyg neu drwy'r ebost. |
|