Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/ARIANNU EICH PROSIECT/RHEOLI EICH GRANT

Rheoli eich grant




Yn aml yr unig beth fyddwch chi'n poeni am yw sicrhau grant ar gyfer eich prosiect - ar ôl gwneud hynny, efallai'ch bod chi'n meddwl y bydd popeth arall yn gofalu am ei hun.

Mae rheoli eich grant yn rhoi amryw o bethau eraill i chi feddwl amdanynt. Gallwn eich cynorthwyo chi i wneud siwr bod rheolaeth y grant mor ddidrafferth â phosib.

Cewch gyngor ar ddenu cyhoeddusrwydd i’ch grant, sut i ddefnyddio’n logo a’r gwybodaeth monitro bydd angen arnom yn ystod rhediad y grant. Os ydych yn nesu at ddiwedd eich grant presennol, efallai eich bod yn ystyried ymgeisio am ail grant i ddatblygu eich prosiect, felly gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod sut i fynd ati.

Y ffactor allweddol ar gyfer rheolaeth llwyddiannus o’r grant (i chi ac i ni) yw trafodaeth a chyfathrebu rhyngoch chi a ni. Byddwn yn dweud wrthych beth sydd angen arnom. Rhowch wybodaeth cyson i ni am eich prosiect, os yw’n llwyddo’n dda neu os oes trafferthion.