Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/ARIANNU EICH PROSIECT/RHEOLI EICH GRANT

Cyhoeddusrwydd i'n grant


Ers 1 Mehefin 2004 mae gan y Gronfa Gymunedol a’r Gronfa Cyfleoedd Newydd enw newydd, Cronfa Loteri Fawr.

Cronfa Loteri Fawr sydd yn ysgwyddo gwaith y Gronfa Gymunedol a’r Gronfa Cyfleoedd Newydd, a bydd yn gyfrifol am ddosbarthu dros hanner yr holl arian Loteri ar gyfer yr achosion da.

Wrth lofnodi’r telerau a’r amodau ar gyfer eich grant cyfredol gan y Gronfa Gymunedol neu’r Gronfa Cyfleoedd Newydd rydych wedi cytuno i gydnabod y grant yn eich deunyddiau cyhoeddusrwydd, papur swyddfa a chyfrifon blynyddol. Roedd hi hefyd yn ofynnol i chi arddangos ein logo ar adeiladau, cerbydau ac offer a brynwyd gyda’r grant.

Nid ydym yn disgwyl i chi newid eich deunyddiau cyhoeddusrwydd na’ch papur swyddfa presennol, ond hoffem petaech yn defnyddio enw Cronfa Loteri Fawr ar unrhyw ddeunyddiau newydd ac yn eich adroddiad blynyddol a’ch cyfrifon o hyn ymlaen. Nid oes rhaid i chi newid unrhyw arwyddion sefydlog sydd ar eich adeilad neu gerbydau.

I ddadlwytho, cliciwch fotwm dde y llygoden ar y cyswllt a dewis"Save" neu "Save Target As" o'r ddewislen sy'n ymddangos.

Edrychwch ar adran Help y wefan hon am wybodaeth a chymorth ychwanegol ar sut i ddadlwytho.



*
*
*
*