| ||||||||||||
HAFANBETH A ARIANNWYDFFEITHIAU A FFIGYRAU |
Ffeithiau a ffigyrau
| |||||||||
Yn ystod blwyddyn ariannol 2002-2003, rydym wedi dosbarthu £285 miliwn.
Roedd hynny'n cynnwys:
£63 miliwn ar brosiectau i bobl anabl (ee gwella mynediad i adeiladau); £32 miliwn ar brosiectau i'r henoed (ee gofal cartref, canolfannau dydd a darparu prydau bwyd); £55 miliwn ar brosiectau i blant a ieuenctid (ee grwpiau chwarae, gofal ar ôl ysgol, llinellau cymorth a chymorth i ddioddefwyr); £14 miliwn ar adeiladu, ymestyn a gwella neuaddau pentref; £4 miliwn ar brosiectau i ddatblygu gallu prosiectau lleiafrifoedd ethnig; £7 miliwn ar gyngor cyfreithiol i geiswyr lloches; £59 miliwn ar brosiectau sy'n helpu pobl mewn caledi ariannol (ee y di'waith, mewn dyled), yn cynnwys hyfforddiant, cyngor ar waith a lles, adnoddau cymunedol; £11 miliwn ar brosiectau i helpu'r digartref i ail sefydlu(ee cyngor, hosteli, gwasanaethau ail gartrefu, cynlluniau gwarantu rhent, hyfforddiant sgiliau sylfaenol ac ailgylchu dodrefn); a £10 miliwn ar brosiectau i helpu dioddefwyr trosedd a chamdriniaeth. |
|