Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/ARIANNU EICH PROSIECT/RHEOLI EICH GRANT

Monitro eich grant


Mae monitro'n helpu ni a chi i rheoli eich grant yn effeithiol. Rydym am weld fod y gwaith yn digwydd ar amser ac o fewn y cyllid a'i fod yn arwain at y newidiadau a nodwyd ar eich ffurflen gais.

Rhoi gwybod i ni

Weithiau mae'n ymddangos bod rhai newidiadau i brosiect yn ddibwys - ond gall y newidiadau hyn achosi trafferthion mawr i ni os nad ydym yn ymwybodol ohonynt. Er enghraifft, mae'n rhaid i ni gael gwybod os:

- Yw swyddogion y pwyllgor yn newid
- Yw'r prif gyswllt yn newid
- Yw enw'r mudiad neu'r statws cyfreithiol yn newid

Cwrdd â'n anghenion monitro

Mae Telerau ac Amodau pob grant yn nodi bod yn rhaid i chi fonitro a gwerthuso eich prosiect. Ar ddiwedd pob blwyddyn o'r grant byddwn yn anfon adroddiad cynnydd i chi ei lenwi. Bydd yr wybodaeth ar yr adroddiad yn ein helpu ni i weld os yw'r prosiect yn:

- cynyddu fel y disgwyl
- cyflawni'r hyn a fwriadwyd
- cyrraedd y bobl a nodwyd
- gweithredu o fewn y cyllid a gytunwyd ar ddechrau'r grant.

Byddwn hefyd angen gweld copïau o'ch cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn o'r grant.



*
Dadlwytho'r gwybodaeth (Word)