Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/SWYDDI GYDA NI/GWEITHIO GYDA'R GRONFA GYMUNEDOL

Gweithio gyda'r Gronfa Gymunedol


Polisi cyflogi

Byddwn yn sicrhau fod gan ein staff:

- gweithle diogel ac iach;

- cydnabyddiaeth deg;

- amodau teg; cyfle i ddatblygu gyrfa;

- hyfforddiant; a

- cyfle cyfartal.

Yn eu tro, yr ydym yn gofyn am:

- gwaith o safon uchel;

- cwrteisi;

- effeithiolrwydd a thegwch wrth ddelio â phob un o'n cwsmeriaid a'i gilydd; a

- parch at gyfle cyfartal.

Cyfleoedd cyfartal

Yr ydym wedi ymrwymo'n adeiladol i gydraddoldeb ac ni fyddwn yn gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, cefndir ethnig, cefndir cenedlaethol, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol, safbwynt gwleidyddol, oedran, statws priodasol, statws economaidd na chefndir cymdeithasol. Mae hyn yn wir yn achos pawb sy'n ceisio am waith a rhai sydd wedi eu cyflogi gennym ym mhob rhan o'n gwaith.

Mae gennym Grup Llywio Cydraddoldeb sydd â'r cyfrifoldeb o sicrhau fod cyfleoedd cyfartal yn rhan canolog o bopeth a wnawn.

Rydym yn derbyn ceisiadau ar ffurfiau eraill gan ymgeiswyr ag anableddau, er enghraifft. CV, tâp sain, print bras neu ar ddisg cyfrifiadurol.

Hyfforddiant a datblygiad

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad ein holl staff. Sylweddolwn fod hyfforddiant yn bwysig i waith effeithiol ac effeithlon. Rydym yn cydnabod yr angen i gefnogi datblygiad gyrfa felly rydym yn darparu pum diwrnod o hyfforddiant ar gyfartaledd bob blwyddyn i staff. Mae gennym hefyd gynllun sy'n talu £100 bob blwyddyn at ddatblygiad personol.

Cyflogau cychwynnol a graddfeydd

Mae gennym bedair graddfa:

- Cyfarwyddwr

- Graddfa Gyswllt

- Rheolwr

- Cefnogol

Rydym yn hysbysebu swyddi ar raddfa ac ystod cyflog arbennig. Fe arfer byddwn yn cynnig y swydd ar y pwynt isaf ar yr ystod, heblaw fod y panel cyfweld yn penderfynu bod gan yr ymgeisydd gryfderau neu lefelau profiad eithriadol. Mewn achosion felly, mae'n bosib i ni gynnig hyd at bump y cant yn uwch na lefel cyflog y swydd flaenorol, cyn belled nad yw yn uwch na'r cyflog uchaf ar gyfer y swydd.

Cynnydd tâl

Mae gan staff parhaol hawl i adolygiad os ydynt wedi bod yn y swydd am chwe mis erbyn 1 Ebrill. Mae wedi selio ar osod nodau a thasgau pwysig, yna'u hadolygu bob blwyddyn trwy adolygiad perfformiad. Mae tair safon perfformiad:

- Islaw'r safon

- Cyfan gwbl effeithiol

- Eithriadol

Mae'r mwyafrif yn gyfan gwbl effeithiol. Mae maint y cynnydd cyflog cyffredinol yn adlewyrchiad o bolisi cyflog y sector cyhoeddus.

Pensiynau

Mae'r Gronfa Gymunedol yn cynnig pensiwn cyflog terfynol neu bensiwn cyfranddeiliaid gan rhoi'r dewis o'r pensiwn sy'n fwyaf addas i chi.

Mae'r pensiwn cyflog terfynol yn rhan o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sydd yn fynegrifol.. Mae'r Pensiwn yn cael ei seilio ar y nifer o flynyddoedd o wasanaeth a'r cyflog pensiynol terfynol. Mae aelodau o'r cynllun pensiwn hwn yn rhoi cyfraniad o 3.5% o'u cyflog i'r cynllun pensiwn.

Os ydych ar gytundeb penodol neu os ydych yn eithrio eich hun o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, mae'n bosib i chi ymaelodi â'r Cyfrif Pensiwn Partneriaeth. Trefniant pensiwn cyfranddeiliaid yw hwn lle fydd y cyflogwr yn rhoi cyfraniad i'ch pensiwn. Bydd y Gronfa Gymunedol yn rhoi cyfraniad o hyd at 15.5% o'ch cyflog yn dibynnu ar eich oed a'ch cyfraniadau.

Oed ymddeol y Gronfa Gymunedol yw 60 ac felly ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan bobl sydd dros 60 oed.

Buddiannau eraill

- Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod sy'n cynyddu i 30 diwrnod ar ôl pum mlynedd o wasanaeth.

- Benthyciadau tocynnau tymhorol di-lôg.

- Cynllun oriau gwaith hyblyg

- Aelodaeth clwb iechyd

- Gwyliau gyda thâl i rieni (i staff cymwys)

- Cynllun datblygu personol

- Rhaglen Gynorthwyo Staff (RhGS) - gwasanaeth cynghori a chyfeirio proffesiynol, cwbl annibynnol, cyfrinachol, heb fod ar y safle, rhad ac am ddim i bawb a gyflogir gennym, ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Datgelu diddordebau

Fel corff cyhoeddus sy'n dyfarnu grantiau mae gennym gôd moesol.

Pe bai chi'n llwyddo i gael swydd gyda ni, bydd yn rhaid i chi ddatgelu unrhyw ddiddordeb mewn mudiadau a fedrai wneud cais i'r Gronfa Gymunedol am grantiau neu gytundeb am waith. Ni chewch gynorthwyo mudiadau yr ydych chi yn ymwneud â hwy, i gyflwyno ceisiadau.

Byddwn yn cadw cofnod o'r diddordebau mewn cofrestr y gall y cyhoedd ei weld.

Amddiffyn data

Mae'r Gronfa Gymunedol yn dilyn egwyddor o gadw gwybodaeth berthnasol, cywir a chyfoes. Pan fyddwch chi'n llofnodi eich cais, rydych yn cytuno bod y Gronfa Gymunedol yn cael casglu gwybodaeth amdanoch chi ar gyfer:

- cyflogi staff;

- gweinyddu personol;

- monitro cyfle cyfartal; a

- sicrhau fod ein gweithgareddau ar gael i'r cyhoedd eu gweld.

Byddwn yn defnyddio'r mwyafrif o'r wybodaeth i bwrpas ystadegol yn unig. Bydd gennych hawl i weld y mwyafrif o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn unol â threfniadau'r Gronfa Gymunedol a chyfreithiau perthnasol.

Geirda

Mae'n rhaid i ni dderbyn geirda gwaith boddhaol gan ddau ganolwr ac, yn unol â chyfreithiau mewnfudo, bydd yn rhaid darparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DG (er enghraifft trwy ddarparu P45, P60 neu basport).

Cyfnod prawf

Bydd yr holl staff parhaol ar brawf yn ystod chwe mis cyntaf eu penodiad.




*
Dadlwytho'r gwybodaeth (Word)