Welcome to the Community Fund web site*
*
*
 HAFAN/AMDANOM NI
Newyddion


06/04/04 DATGANIAD GAN BRIF WEITHREDWR CRONFA LOTERI FAWR AR YR ENW NEWYDD
Croesawodd Stephen Dunmore, Prif Weithredwr y Gronfa Loteri Fawr , y cyhoeddiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Gwladol Tessa Jowell am yr enw newydd ar gyfer y corff fydd yn gyfrifol am ddosbarthu dros hanner yr holl arian Loteri Genedlaethol.

20/02/04 Hwb enfawr i ganolfan newydd yn y Barri
Derbyniodd y cynllun i adeiladu Canolfan Gymunedol AmlBwrpas yn y Barri hwb enfawr heddiw gyda’r newydd ei fod wedi sicrhau £300,000 gan y Gronfa Gymunedol, un o’r dosbarthwyr loteri sydd yn gweithio yng Nghymru. Bydd y Ganolfan ei hun, ar gost o dros 2 filiwn o bunnoedd, yn darparu amrywiaeth o adnoddau a gweithgareddau ar gyfer pobl o bob oed.

25/02/04 Hwyl yn y YMCA
Derbyniodd YMCA Bargoed anrheg o dros £165,000 i adnewyddu’r ganolfan boblogaidd ar achlysur ei phen-blwydd yn 65 yn ddiweddar. Bydd y grant loteri gan y Gronfa Gymunedol yn darparu rheolwr llawn amser ac yn cynorthwyo i adnewyddu’r adeilad er mwyn datblygu mwy o weithgareddau ar gyfer grwpiau o bobl anabl a henoed sy’n cael trafferth i symud o gwmpas.

25/02/04 Canolfan eu hun i Bensiynwyr Blaengar

Daeth sefydlu canolfan i drigolion hŷn Wrecsam gam yn nes yr wythnos hon pan glywodd Partneriaeth Parc Caia Cyf eu bod wedi derbyn £108,223 gan y Gronfa Gymunedol, un o ddosbarthwyr y loteri yng Nghymru. Bydd dwy flynedd o waith cynllunio yn dwyn ffrwyth wrth i Fforwm yr Henoed ar y stâd gymryd rheolaeth o Ganolfan Deva, cyn ganolfan gymunedol. Bydd y ganolfan yn cael ei hadnewyddu i wella’r mynediad ac i ddarparu clwb cinio, adnoddau ymolchi a gwasanaethau eraill fel bo’r galw.


18/02/04 MERCH O’R CYMOEDD YN BENNAETH AR FILIYNAU O ARIAN LOTERI YNG NGHYMRU
Penodwyd Ceri Doyle, merch a anwyd ym Maesteg yn Gyfarwyddwr y Dosbarthwr Loteri newydd yng Nghymru.

Bydd y Dosbarthwr Newydd drwy’r DU yn cael ei ffurfio drwy uno y Gronfa Gymunedol a’r Gronfa Cyfleoedd Newydd a bydd yn gyfrifol am ddosbarthu miliynau o bunnoedd o arian loteri yng Nghymru.

23/01/04 Bobath yn derbyn arian Loteri
Yn ystod 2004 bydd y Loteri Genedlaethol yn dathlu ei degfed pen-blwydd a gan fod dros £650 miliwn o arian loteri eisoes wedi ei ddosbarthu i achosion da ar hyd a lled y wlad, gall Gymru hawlio ei bod wedi elwa’n fawr ohono.

23/01/04 Arian Loteri i'r 'Afon yn yr Awyr'
Yn ystod 2004 bydd y Loteri Genedlaethol yn dathlu ei degfed pen-blwydd a gan fod dros £650 miliwn o arian loteri eisoes wedi ei ddosbarthu i achosion da ar hyd a lled y wlad, gall Gymru hawlio ei bod wedi elwa’n fawr ohono.

23/01/04 Gyrru ar y we
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae ieuenctid sydd heb arian neu’n dioddef o anawsterau llythrennedd yn llwyddo i basio prawf gyrru neu gael swydd? Wel nawr, mae help wrth law yn ardal Llanelli, diolch i grant loteri o dros £150,000. Bydd grant gan y Gronfa Gymunedol yn caniatáu i Brosiect Canolfan Llanelli Cyf ddarparu mynediad i DG a hyfforddiant gyrru i rai na fyddai’n gallu gwneud hynny o ran eu hunain.

19/12/03 Arian diweddaraf gan y Loteri i wella iechyd ac addysg plant ar draws y byd
Heddiw dyfarnwyd dros £1.4 miliwn i helpu plant difreintiedig ar draws y byd dan Rhaglen grantiau rhyngwladol y Gronfa Gymunedol.

22/08/03 Plant sy’n agored i niwed yn elwa o’r grantiau diweddaraf gan y Gronfa Gymunedol
Bydd pobl sy’n agored i niwed ar draws y byd yn elwa o grantiau diweddaraf y Gronfa Gymunedol a gyhoeddwyd heddiw.



*
Newyddion Cymru
*
Newyddion DU gyfan
*
Newyddion Rhyngwladol
*
Newyddion am y Dosbarthwr Newydd