| ||||||||||||
HAFANAMDANOM NI |
6 April 2004
DATGANIAD GAN BRIF WEITHREDWR CRONFA LOTERI FAWR AR YR ENW NEWYDD
| ||||
Croesawodd Stephen Dunmore, Prif Weithredwr y Gronfa Loteri Fawr , y cyhoeddiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Gwladol Tessa Jowell am yr enw newydd ar gyfer y corff fydd yn gyfrifol am ddosbarthu dros hanner yr holl arian Loteri Genedlaethol.
Dywedodd: “Mae’r penderfyniad heddiw yn gam pwysig wrth sefydlu Dosbarthwr Newydd. Mae’r neges yn hawdd: bydd Cronfa Loteri Fawr a fydd yn gyfrifol am ddosbarthu hanner yr holl arian Loteri Genedlaethol yn chwarae rôl allweddol wrth daclo difreintedd a gwella ansawdd bywyd mewn cymunedau.”
Ychwanegodd “Rwy’n credu bydd yr enw yn gymorth i ail gysylltu’r cyhoedd gyda’r Loteri Genedlaethol. Mae hwn yn amser cyffrous i’r Dosbarthwr Newydd ac mae cynlluniau yn cael eu datblygu i’r Gronfa Loteri Fawr fod yn arloesol wrth gynnwys y cyhoedd yn y modd y mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yngŷn â’r ffordd y mae arian loteri yn cael ei ddosbarthu.” | Am wybodaeth pellach cysylltwch a:
Deian Creunant, Rheolwr Cyfathrebu y Gronfa Gymunedol: 01686 611705 / 07855 276740 neu Natalie Kober, Rheolwr Cyfathrebu y Gronfa Cyfleoedd Newydd: 029 2067 2807 |